Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Arholiadau Cyhoeddus

Bydd yr Awdurdod Lleol yn cydymffurfio â gofynion y ddeddf. Mae disgyblion, os yw’r pennaeth yn ystyried eu bod yn addas, yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a grwpiau arholi eraill.

Mae amserlenni arholiadau yn cael eu trefnu gan CBAC a grwpiau arholi eraill a hysbysir penaethiaid ynghylch yr arholiadau hyn a’r canlyniadau yn uniongyrchol gan y grwpiau hynny.