Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
Dylai rhieni sy'n dymuno anfon eu plentyn i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir gysylltu â Phennaeth yr ysgol honno. Nodir y manylion cyswllt yn y rhestr o ysgolion mewn rhan arall o'r llyfryn hwn. Corff Llywodraethu'r ysgol sy'n delio â'r trefniadau derbyn ac apeliadau ar gyfer Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir. Rhaid gwneud ceisiadau ar-lein.
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Model
Mae ein polisi derbyn fel a ganlyn:
Nifer Derbyn yr ysgol yw 60 disgybl. Golyga hynny mai nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i unrhyw grŵp blwyddyn yn yr ysgol yw 60 disgybl. Os oes mwy o geisiadau nag sydd o leoedd defnyddir y meini prawf canlynol er mwyn blaenoriaethu ceisiadau:
- Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant oedd yn Arfer Derbyn Gofal.
- Plant sy'n byw ym mhlwyfi hanesyddol Dewi Sant a San Pedr, Caerfyrddin.
- Plant sydd â brodyr neu chwiorydd sydd eisoes yn mynychu'r ysgol.
- Plant sydd wedi cael bedydd Cristnogol ac sy’n byw’r tu allan i blwyf Dewi Sant a San Pedr, os oes lle ar gael. Gellid gofyn hefyd am lythyr o gefnogaeth oddi wrth yr offeiriad plwyf lleol.
Bydd plant sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol sy'n enwi'r ysgol yn cael lleoedd cyn defnyddio'r meini prawf gor-alw.
Nodwch - ym mhob un o'r categorïau uchod rhoddir blaenoriaeth i:
- Plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n byw dros dro yn lloches Cymorth i Fenywod Caerfyrddin.
- Plant aelodau o'r lluoedd arfog sy'n cael eu derbyn y tu allan i'r cylch derbyn arferol.
- Bydd plant sydd ag efaill neu frawd neu chwaer arall o enedigaeth luosog yn cael eu derbyn yn ddisgyblion na chânt eu heithrio, fel y disgybl(ion) olaf i gael lle cyn cyrraedd y nifer derbyn. Bydd y disgyblion a eithrir bellach yn cynnal y statws hwn ar hyd eu cyfnod mewn dosbarth babanod neu tan fod dosbarthiadau yn cael eu haildrefnu neu fod niferoedd yn cyrraedd lefel sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ynghylch maint dosbarthiadau babanod. Bydd y pellter o’r cartref i’r ysgol, fel y mesurwyd gan y radiws byrraf o'r adeilad ysgol fwyaf canolog, yn cael ei ddefnyddio yn faen prawf ar gyfer penderfynu blaenoriaeth, a rhoddir blaenoriaeth a lle yn yr ysgol i’r sawl sy’n byw agosaf at yr ysgol dros y sawl sy’n byw ymhellach i ffwrdd.
Os nad ydym yn cynnig lle i blentyn yn yr ysgol hon, y rheswm dros hynny yw y byddai gwneud hynny yn amharu ar addysg plant eraill drwy ganiatáu i niferoedd y plant yn yr ysgol gynyddu gormod.
Apeliadau Derbyn i Ysgolion
Bydd y Corff Llywodraethu'n trefnu bod apêl gan riant yn erbyn penderfyniad i wrthod derbyn disgybl yn cael ei chlywed gan Bwyllgor Apêl Annibynnol yn unol â’r rheoliadau. Bydd penderfyniad y Pwyllgor Apêl Annibynnol yn rhwymo’r Corff Llywodraethu a’r rhiant.
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Penboyr
Y Meini Prawf o ran Derbyn i Ysgol Penboyr
Os bydd nifer y plant sy'n ceisio lle yn yr ysgol yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, cynigir lle ar sail blaenoriaeth yn y drefn ganlynol:
- Plant sy’n derbyn gofal sy'n gymunwyr y ffydd Anglicanaidd. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal, sy'n gymunwyr y ffydd Anglicanaidd ac sydd bellach wedi cael eu mabwysiadu.
- Plant sy'n derbyn gofal.
- Plant a oedd yn derbyn gofal ond sydd bellach wedi cael eu mabwysiadu.
- Plant sydd â brodyr neu chwiorydd, p'un a yw'r rheiny'n frodyr neu’n chwiorydd maeth, mabwysiedig neu sy'n byw yn barhaol yn yr un cyfeiriad, sydd yn mynychu’r ysgol ar y dyddiad derbyn arfaethedig.
- Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol. Plant o deuluoedd sy'n byw y tu allan i'r ardal ond sy'n gymunwyr rheolaidd mewn eglwys Anglicanaidd.
- Plant o deuluoedd sy'n perthyn i enwadau Cristnogol eraill ac sy'n byw y tu allan i'r dalgylch ac y mae eu rhieni am iddynt dderbyn addysg mewn Ysgol Eglwysig Anglicanaidd.
- Plant o deuluoedd sy'n byw y tu allan i'r dalgylch nad ydynt yn addolwyr Cristnogol ond y mae eu rhieni am iddynt dderbyn addysg mewn Ysgol Eglwysig Anglicanaidd.
Ym mhob achos, mae 'hawl i apelio' yn erbyn penderfyniad i wrthod cais am dderbyn plentyn i'r ysgol ac mae'n rhaid cyflwyno'r apêl i Gadeirydd y Corff Llywodraethu.
Apeliadau Derbyn i Ysgolion
Bydd y Corff Llywodraethu'n trefnu bod apêl gan riant yn erbyn penderfyniad i wrthod derbyn disgybl yn cael ei chlywed gan Bwyllgor Apêl Annibynnol yn unol â’r rheoliadau. Bydd penderfyniad y Pwyllgor Apêl Annibynnol yn rhwymo’r Corff Llywodraethu a’r rhiant.
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Pentip
Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethu yw derbyn plant i'r ysgol. Hyn a hyn o ddisgyblion y caiff yr ysgol eu derbyn mewn unrhyw grŵp blwyddyn. Y Nifer Derbyn presennol yw 21 mewn unrhyw grŵp blwyddyn.
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru yw Pentip yn bennaf, sy'n gwasanaethu Deoniaeth Bro Lliedi ac ardal Llanelli fel y nodir ar fap yr Awdurdod Lleol. Mae'r Llywodraethwyr yn croesawu ceisiadau gan rieni disgyblion o enwadau eraill sy'n cefnogi ethos a thraddodiadau Cristnogol yr ysgol.
Mae'r corff llywodraethu'n ystyried ceisiadau am dderbyn i'r ysgol yn ystod Tymor yr Hydref cyn y flwyddyn academaidd y bydd y disgybl yn dechrau yn yr ysgol. Pe bai gor-alw am leoedd, mae'r meini prawf derbyn fel a ganlyn:
- Plant sy’n Derbyn Gofal.
- Disgyblion sydd â brawd neu chwaer (llawn, hanner neu lysfrawd neu lyschwaer, plant sydd wedi eu mabwysiadu a’u maethu) a fydd yn yr ysgol adeg derbyn y disgybl.
- Plant sy’n byw o fewn y dalgylch fel y dangosir ar fap yr Awdurdod Lleol. Gellir gweld y map yn yr ysgol neu ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
- Plant yr Eglwys yng Nghymru a fedyddiwyd yn Neoniaeth Cydweli. Gellir gweld map o’r ardal ar wefan Deoniaeth Dewi Sant.
- Plant rhieni enwadau eraill sy'n dymuno rhannu a chefnogi ethos a thraddodiadau Cristnogol yr ysgol (a gefnogir gan eirda gan gynrychiolydd eglwys y teulu).
Os gwrthodir cais am le, mae gan rieni'r hawl i apelio. Dylid anfon llythyr at Gadeirydd y Corff Llywodraethu yn apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chynnig lle. Caiff hwn ei glywed gan banel apeliadau annibynnol. Bydd penderfyniad y panel yn rhwymo'r llywodraethwyr a'r apelyddion.
Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Llanelli
Proses Gwneud Cais
Dylid cyflwyno ceisiadau i ymuno â'n hysgol drwy dudalen Derbyn i Ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin ar eu gwefan. Bydd y tîm derbyn yn anfon y cais ymlaen i'r ysgol a fydd wedyn yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Derbyn y Corff Llywodraethu sy'n cwrdd bob tymor. Bydd ceisiadau ad hoc, neu geisiadau a wneir ar ôl i’r Pwyllgor gyfarfod, yn cael eu trafod yn brydlon; fel arfer, byddant yn cael eu hystyried gan ddau aelod o’r Pwyllgor a enwebwyd at y diben hwnnw gan y Pwyllgor i weithredu ar ei ran. Mae plant meithrin yn cael eu derbyn y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd ar sail ran-amser ac mae ganddynt hawl i addysg amser llawn y tymor ar ôl eu pedwerydd pen-blwydd. Bydd y rhai sy'n gwneud cais am ymuno â'r dosbarth Meithrin yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad ar y Diwrnod Cynnig Cenedlaethol. I gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol i drafod unrhyw ymholiadau, ffoniwch 01554 759178, neu e-bostiwch: admin@stmarysllanelli.ysgolccc.cymru
Y Meini Prawf Gor-alw
Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn croesawu ceisiadau gan deuluoedd sy’n ceisio addysg Gristnogol i’w plant. Os bydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, defnyddir y meini prawf gor-alw canlynol:
- Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio 'sy'n derbyn gofal' ac 'a oedd yn arfer derbyn gofal' sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu sy'n cael llety ganddynt (e.e. plant â rhieni maeth neu sydd â datganiad anghenion arbennig yn enwi'r ysgol, o fewn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol).
- ‘Plant sy'n derbyn gofal' a 'Phlant a oedd yn arfer derbyn gofal' sydd yng ngofal yr awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu sy'n cael llety ganddynt (e.e. plant â rhieni maeth neu sydd â datganiad anghenion arbennig yn enwi'r ysgol, o fewn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol).
- Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio o fewn y plwyfi a wasanaethir gan yr ysgol.
- Plant Catholig eraill sydd wedi’u bedyddio.
- Plant sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol ar yr adeg derbyn tebygol.
- Plant o enwadau Cristnogol eraill.
- Plant eraill sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol ar adeg eu derbyn.
- Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni yn ceisio addysg Gatholig.
- Plant eraill y mae eu rhieni yn ceisio addysg Gatholig ar gyfer eu plentyn.
- Plant y mae'r AALl wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol.
Sylwch:
- Ym mhob un o'r categorïau uchod rhoddir blaenoriaeth i blant sy'n derbyn gofal.
- Ym mhob un o’r categorïau uchod, bydd y pellter o’r cartref i'r ysgol yn ffactor sy’n penderfynu, gyda’r rheiny sy’n byw agosaf at yr ysgol yn cael y flaenoriaeth uchaf.
Apeliadau
Os gwrthodir cais am le, mae gan rieni'r hawl i apelio. Dylid anfon llythyr at Gadeirydd y Corff Llywodraethu yn apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chynnig lle. Caiff yr Apêl ei chlywed gan Banel Apêl Annibynnol; mae hwn yn annibynnol ar y Corff Llywodraethu a holl gynrychiolwyr eraill yr ysgol, a bydd ei benderfyniad yn rhwymo’r Corff Llywodraethu a’r apelyddion.
Ysgol y Santes Fair, Caerfyrddin
Proses Gwneud Cais
Mae ceisiadau am dderbyn i’r ysgol yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Derbyn a Bugeilio bob tymor ar gyfer derbyn ddechrau’r tymor nesaf. Mae plant meithrin yn cael eu derbyn yn y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Bydd ceisiadau hwyr, neu geisiadau a wneir ar ôl i’r Pwyllgor gyfarfod, yn cael eu trafod yn brydlon; fel arfer, byddant yn cael eu hystyried gan ddau aelod o’r Pwyllgor a enwebwyd at y diben hwnnw gan y Pwyllgor i weithredu ar ei ran.
Y Meini Prawf Gor-alw
Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn croesawu ceisiadau gan deuluoedd sy’n ceisio addysg Gristnogol i’w plant. Os bydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, defnyddir y meini prawf gor-alw canlynol:
- Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio.
- Plant eraill nad ydynt yn Gatholig sydd wedi'u bedyddio.
- Plant sy’n perthyn i gymunedau ffydd nad ydynt yn Gristnogol.
- Plant sydd â brawd neu chwaer (h.y. brawd, chwaer, hanner brawd, hanner chwaer, llysfrawd, llyschwaer, brawd mabwysiadol neu chwaer fabwysiadol) wedi’u cofrestru yn yr ysgol pan fydd y plentyn yn cael ei (d)derbyn i’r ysgol.
- Gall y Corff Llywodraethu roi ystyriaeth i geisiadau a wnaed gan rieni a all ddangos bod derbyn eu plentyn yn angenrheidiol er eu lles meddygol neu gymdeithasol. Bydd angen tystiolaeth ategol annibynnol.
Sylwch:
- Ym mhob un o'r categorïau uchod rhoddir blaenoriaeth i blant sy'n derbyn gofal.
- Ym mhob un o’r categorïau uchod, bydd y pellter o’r cartref i'r ysgol yn ffactor sy’n penderfynu, gyda’r rheiny sy’n byw agosaf at yr ysgol yn cael y flaenoriaeth uchaf.
Apeliadau
Os gwrthodir cais am le, mae gan rieni'r hawl i apelio. Dylid anfon llythyr at Gadeirydd y Corff Llywodraethu yn apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chynnig lle. Caiff yr Apêl ei chlywed gan Banel Apêl Annibynnol; mae hwn yn annibynnol ar y Corff Llywodraethu a holl gynrychiolwyr eraill yr ysgol, a bydd ei benderfyniad yn rhwymo’r Corff Llywodraethu a’r apelyddion.
Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd
Y Meini Prawf Gor-alw o ran Derbyniadau
Mae Polisi Derbyn a Gor-alw Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd fel a ganlyn:
Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt o'r un ffydd â'r ysgol hon neu nad ydynt o gefndir ffydd i wneud cais am le yma a chael eu hystyried ar ei gyfer. Yn wir, mae'r ysgol yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bob teulu. 116 yw Nifer Derbyn yr Ysgol ar hyn o bryd.
Os yw nifer y ceisiadau'n fwy na'r nifer derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i'r ceisiadau'n unol â'r meini prawf a restrir, ar yr amod bod y llywodraethwyr yn gwybod am y ceisiadau hynny cyn bod penderfyniadau ynghylch derbyniadau'n cael eu gwneud. Ym mhob categori bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i'r sawl sydd â brawd neu chwaer yn mynychu Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd ac yna i'r plant sy'n byw agosaf i'r ysgol.
- Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio ac sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant sy'n derbyn gofal) neu sy'n cael llety drwy awdurdod lleol (e.e. plant â rhieni maeth) (Adran 22 o Ddeddf Plant 1989) a phlant sydd â Chynllun Datblygu Unigol sy'n enwi Ysgol Sant Ioan Llwyd.
- Plant nad ydynt yn Gatholig sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant sy'n derbyn gofal) neu sy'n cael llety drwy awdurdod lleol (e.e. plant â rhieni maeth) (Adran 22 o Ddeddf Plant 1989) a phlant sydd â datganiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd wedi enwi Ysgol Sant Ioan Llwyd.
- Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio sy'n mynychu ysgol glwstwr Gatholig ddynodedig ar hyn o bryd.
- Plant Catholig sydd wedi'u bedyddio ac sy'n byw ar hyn o bryd yn ardal plwyf ysgol glwstwr Gatholig ddynodedig nad ydynt yn mynychu'r ysgol glwstwr Gatholig ddynodedig ar hyn o bryd.
- Plant yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi’u bedyddio.
- Plant eraill sydd heb eu bedyddio sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgol glwstwr Gatholig ddynodedig.
- Plant eraill sydd heb eu bedyddio sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.
- Plant eraill nad ydynt yn Gatholig o ysgolion cynradd eraill.
Proses Gwneud Cais
Mae'n rhaid i rieni wneud cais ar-lein drwy dudalen Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin a dewis Ysgol Sant Ioan Llwyd fel eu dewis cyntaf. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau blwyddyn 6 yw 28 Tachwedd 2025. Rhoddir gwybod i rieni os yw eu plentyn wedi cael cynnig lle yn dilyn cyfarfod yr Is-bwyllgor Derbyn i Lywodraethwyr yn nhymor y gwanwyn. Bydd cynigion o leoedd mewn ysgolion yn cael eu hanfon drwy e-bost at rieni ar 1 Mawrth 2026.
Apeliadau
Os gwrthodir cais am le, mae gan rieni'r hawl i apelio.
Dylid anfon llythyr at Gadeirydd y Corff Llywodraethu (d/o yr ysgol), yn apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â chynnig lle. Caiff yr apêl ei hystyried gan Banel Apêl Annibynnol, na all gynnwys unrhyw un o Lywodraethwyr na chynrychiolwyr eraill yr ysgol.