Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
Ers Medi 2023 mae categorïau ysgol newydd wedi cael eu cyflwyno yn genedlaethol.
Mae’r ddarpariaeth ieithyddol yn cyplysu’n agos â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Sir; gan gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050; gwreiddio Maes Dysgu Ieithoedd a Chyfathrebu Cwricwlwm i Gymru a phedwar diben y cwricwlwm lle nodir y bydd disgyblion yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, yn ogystal â chydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
O ganlyniad, mae disgwyliad clir y bydd pob ysgol yn datblygu darpariaeth a fydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y cwricwlwm ffurfiol a'r cwricwlwm allgyrsiol, er mwyn cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y Sir, sef cynllun cydnabyddedig, rhwng 2022 a 2032.
Mae'r Awdurdod Lleol a'r ysgolion wedi cytuno ar y categori mwyaf addas yn seiliedig ar y ddarpariaeth gyfredol o'r rhestr newydd ganlynol:
YSGOL GYNRADD
Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg
Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu, a bydd ganddo rywfaint o ddealltwriaeth o'r Gymraeg. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.
Categori 2 - Ysgol Dwy iaith
Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu â rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol ag oedran a gallu a'r ffrwd addysg. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng dysgu, defnyddir y Saesneg yn achlysurol i atgyfnerthu dealltwriaeth dysgwyr. Gyda'r cymorth cywir, gallai dysgwyr symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Categori 3. Bydd o leiaf 50% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Gellid cyflawni hyn mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol. Gallai fod drwy ddefnyddio trochi cyfrwng Cymraeg llawn hyd at 7 oed gyda dewis yn cael ei gynnig yn y grwpiau blwydd
Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg
Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol. Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar. O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol y dysgwr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd disgyblion yn dod yn gwbl ddwyieithog.
YSGOL UWCHRADD
Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg
Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn cael ei addysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, a bydd yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd dysgwyr yn gallu siarad rhywfaint o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfarwydd ac mewn rhai cyd-destunau pwnc gan ddefnyddio termau a geirfa sy'n benodol i bwnc yn dibynnu ar feysydd y cwricwlwm a ddarperir yn y Gymraeg.
Categori 2 - Ysgol Dwy iaith
Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu â rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan ddibynnu ar faint o amser a neilltuir i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth, byddai dysgwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn ystod o wahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad. Bydd o leiaf 40% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 40% o weithgareddau ysgol (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.
Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg
Mae ysgolion yn y categori hwn wedi'u rhannu'n ddwy ran: Categori 3 Cyfrwng Cymraeg a Chategori 3P Cyfrwng Cymraeg penodedig.
Ar gyfer pob ysgol yn y categori hwn, y Gymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol. Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae'r rhain yn ysgolion sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Bydd dysgwr yn y categori ysgol hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu.
Bydd ysgol Categori 3 – Ysgol Cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o'u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd o leiaf 60% o ddysgwyr sy'n ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd disgwyl i bob ysgol Categori 3 barhau i adlewyrchu cyd-destun ieithyddol yr ardal tra'n gweithio tuag at gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.
Bydd Ysgol Categori 3P – Ysgol Cyfrwng Cymraeg Penodedig – yn cyflwyno pob Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd 100% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 90% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.
Is-gategorïau Trosiannol T2 a T3
Categorïau pontio yw’r rhain rhwng dau brif gategori iaith. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth o’r Gymraeg, a hynny er mwyn symud i’r categori nesaf, yw nod yr is-gategorïau trosiannol. Felly, mae T2 yn pontio ysgol categori 1 a 2, gyda’r nod o ddod yn gategori 2 o fewn cyfnod o 10 mlynedd ac mae T3 yn pontio ysgol categori 2 a 3 gyda'r nod o ddod yn ysgol categori 3 o fewn gyfnod o 10 mlynedd.