Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Gwahardd disgyblion

Y Pennaeth (neu athro/athrawes c/gyfrifol arall yn gweithredu yn enw’r Pennaeth) yw’r unig un â’r awdurdod i wahardd disgybl o’r ysgol am resymau disgyblu. Mae’n ddyletswydd ar y pennaeth i roi gwybod i'r rhieni a’r plant (neu i’r disgybl os yw'n 11 oed neu'n hŷn) a yw'r gwaharddiad yn un parhaol neu'n waharddiad am gyfnod penodedig, a’r rhesymau dros hynny. Gwahoddir rhieni i gyflwyno sylwadau ynghylch y gwaharddiad i banel disgyblu corff llywodraethu'r ysgol. Gellir cael copi o’r ddogfen gyfarwyddyd ar wahardd disgyblion o’r Adran Addysg a Phlant. Gellir cael cyngor pellach gan Swyddog EOTAS: Rhif ffôn: 01267 246456.