Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth ddwyieithog, ddiduedd a di-dâl ynghylch amrywiaeth eang o ddewisiadau gofal plant, gweithgareddau i blant a materion yn ymwneud â chymorth i deuluoedd. Mae hyn yn cynnwys talu am ofal plant a gweithio ym maes gofal plant, gwybodaeth am feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau ar ôl ysgol, cylchoedd chwarae a grwpiau rhieni a phlant bach. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar gael i rieni, gofalwyr, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol yn Sir Gaerfyrddin.

Cysylltwch â'r gwasanaeth i gael gwybodaeth am y canlynol:

  • Cynnig Gofal Plant Cymru
  • Gofal plant sydd ar gael a chyfleusterau gofal plant
  • Datblygiad plant ac ymddygiad
  • Gwasanaethau Addysg a Dysgu fel Teulu
  • Gwasanaethau iechyd a llesiant
  • Grwpiau cymorth ar gyfer rhieni a theuluoedd
  • Chwarae, chwaraeon a chyfleusterau hamdden eraill
  • Aros yn ddiogel
  • Gwasanaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer plant ac oedolion ag anableddau a
  • llawer, llawer mwy.

Yn ogystal â'ch helpu'n uniongyrchol, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol eich cyfeirio at asiantaethau a sefydliadau eraill hefyd.

Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth fel a ganlyn: 
Ffôn: 01267 246555
E-bost: gwybplant@sirgar.gov.uk
Gwefan