Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Profiadau Dysgu

Mae ysgolion yng Nghymru yn dylunio cwricwlwm sy'n seiliedig ar y cwricwlwm i Gymru ac sy'n cael ei gyd-ddylunio rhwng athrawon, eu disgyblion a'r gymuned.

Bydd eich ysgol yn cefnogi eich plentyn i fod yn ddysgwr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu trwy gydol ei fywyd. Bydd y profiadau dysgu yn sicrhau bod eich plentyn yn datblygu mewn ffordd fentrus a chreadigol gan sicrhau ei fod yn wybodus am Gymru a'r byd. Yn ogystal, bydd y profiadau dysgu yn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn datblygu fel unigolion hyderus ac iach, yn barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae'r meysydd dysgu a phrofiad yn cynnwys ffocws ar ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a rhifedd, y celfyddydau mynegiannol, Dyniaethau ac iechyd a lles.

Mae'r cwricwlwm hefyd yn ymdrin â hawliau dynol, amrywiaeth a pharchu gwahaniaethau, profiadau a sgiliau ar gyfer gyrfaoedd a'r gweithle, dysgu am gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n briodol yn ddatblygiadol.

Mae profiadau dysgu yn ein hysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn gynhwysol ac yn bwrpasol ac maent wedi'u cysylltu'n agos â'r gymuned leol, ein Cynefin.

Mae disgyblion hŷn yn cael cyfle i sefyll arholiadau allanol. Ymgynghorir yn llawn â rhieni a disgyblion ar eu dewisiadau a chefnogir trafodaethau gan gyngor gyrfaoedd.

Egwyddorion Cyffredinol

Yn Sir Gaerfyrddin rydym yn ymdrechu i roi'r profiad addysg gorau posibl i'n dysgwyr. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu'r plentyn/person ifanc cyfan gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer y cam nesaf yn eu llwybr dysgu neu yrfa ddysgu.

Mae Sir Gaerfyrddin yn credu yng ngwerth addysgol bod yn hyddysg mewn dwy iaith neu fwy ac mae'n gryf o blaid cael polisi dwyieithog yn ei hysgolion. Nod tymor hir y polisi hwn yw dysgu plant i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd. Nod y ddarpariaeth ar lefel gynradd ac uwchradd yw sicrhau bod y plant yn gallu cyfathrebu â hyder yn y ddwy iaith a'u bod yn ymwybodol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Y weledigaeth hyd at 2030

Byddwn yn cefnogi holl blant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn cyflawni hyn drwy fod y gorau y gallwn fod a chael ein parchu'n lleol, yn ogystal ag ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, gan sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn hapus ac yn ddiogel, a'u bod yn gallu ffynnu a chyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a’u potensial o ran dysgu.

Ein pwrpas moesol cyfunol

Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei werthfawrogi a'i werthfawrogi'n gyfartal

Cwynion yn yr ysgol

Mae gan bob ysgol unigol bolisi ar gyfer ymdrin â chwynion. Yn ddelfrydol, bydd unrhyw bryderon sydd gan rieni yn cael eu datrys yn anffurfiol drwy drafodaeth uniongyrchol â’r ysgol. Fodd bynnag, os yw rhieni'n dymuno gwneud y gŵyn yn ffurfiol, mae'r ysgol wedi sefydlu gweithdrefnau y mae'n ofynnol iddynt eu darparu.

Grwpiau Blwyddyn/Oedrannau Disgyblion

 

  Disgrifiad o'r Grwpiau Blwyddyn Oed y mwyafrif ar ddiwedd y flwyddyn ysgol>

M1

M2

 

Meithrin 3 oed
(Rhan-amser)

Meithrin 4 oed (Amser llawn)

3

4

DERBYN

B1

B2

Babanod

Babanod

Babanod

5

6

7

B3

B4

B5

B6

Iau

Iau

Iau

Iau

8

9

10

11

B7

B8

B9

Uwchradd

Uwchradd

Uwchradd

12

13

14

B10

B11

Uwchradd

Uwchradd

15

16

B12

B13

Chweched Isaf

Chweched Uchaf

17

18