Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles

Mae'r Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles wedi bod ar waith yn llwyddiannus ers mis Medi 2001 ac mae pob ysgol gynradd, ysgol uwchradd a sefydliad dysgu ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin bellach yn rhan o’r rhaglen mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Pwrpas y rhaglen yw hwyluso'r amodau corfforol, cymdeithasol-emosiynol a seicolegol ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, drwy ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles.

Mae’r rhaglen yn rhan o Rwydwaith Cenedlaethol sydd yn seiliedig ar gyfres o safonau gofynnol sydd wedi eu trefnu ar draws 7 cydran graidd sy’n disgrifio elfennau craidd dull ysgol gyfan:

  • Arweinyddiaeth, llywodraethu ac ymrwymiad cryf i iechyd a lles.
  • Ysgol sy’n ymroddedig i ddeall anghenion a gwerthuso camau gweithredu.
  • Cyfranogi, ymgysylltu a chyfathrebu â’r gymuned ysgol gyfan.
  • Gweithlu sy’n cefnogi ei les ei hun, yn ogystal â lles y dysgwyr.
  • Cwricwlwm sy’n gweithio law yn llaw â chamau gweithredu, polisïau ac arferion ehangach yr ysgol.
  • Amgylchedd a diwylliant ysgol cadarnhaol sy’n atgyfnerthu’r dysgu ac ymrwymiad yr ysgol i iechyd a lles.
  • Ysgol lle mae partneriaethau gwaith cryf yn galluogi’r gymuned ysgol i gael mynediad at y gwasanaethau iechyd a chymorth sydd eu hangen arni.

Mae'r rhaglen yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a'r Cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o ran datblygu:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Mae Ysgol sy’n Hybu Iechyd a Lles yn un sy'n gwneud ymdrech cyson i sicrhau lleoliad diogel ac iach ar gyfer addysgu, dysgu a gweithio. Defnyddia ei photensial sefydliadol i feithrin yr amodau corfforol, cymdeithasol-emosiynol a seicolegol ar gyfer iechyd a lles a deilliannau addysgol cadarnhaol. Ac wrth wneud hynny, mae’n sefydlu dull ysgol gyfan o hybu iechyd a chyrhaeddiad.

Mewn ymateb i'r Fframwaith ar Sefydlu Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (Mawrth 2021), ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cefnogi ysgolion i werthuso pa mor dda y maent yn sefydlu Dull Ysgol Gyfan mewn perthynas â'r agenda Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl gyda chymorth Offeryn Hunanwerthuso a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n rhaid i ysgolion werthuso pa mor dda y maent yn perfformio mewn perthynas â chyfres o ddangosyddion o fewn 8 categori gwahanol sydd wedi'u cynnwys yn yr Offeryn Hunanwerthuso.

Mae'r categorïau hyn yn cynnwys:

  1. Arweinyddiaeth ac Ymrwymiad
  2. Deall anghenion dysgwyr a staff o ran eu llesiant emosiynol a meddyliol
  3. Cyfrannu a chymryd rhan
  4. Y gweithlu
  5. Cydberthnasau
  6. Gwasanaethau Cymorth a Chefnogaeth
  7. Amgylchedd a chyfleusterau’r ysgol
  8. Amgylchedd ac Ethos yr Ysgol
  9. Cwricwlwm

Ar hyn o’r bryd mae Swyddogion Ysgolion sy'n Hybu Iechyd a Lles Lleol yn cefnogi ysgolion i nodi cryfderau a meysydd datblygu yn eu Hofferyn Hunanwerthuso, gan sicrhau bod ysgolion yn dewis blaenoriaethau ar gyfer eu Cynlluniau Gweithredu, yn monitro cynnydd ysgolion mewn perthynas â datblygu meysydd blaenoriaeth, yn rhannu arfer da ymhlith ysgolion ac yn eu cyfeirio at bartneriaid ac asiantaethau allweddol a all eu cefnogi ymhellach. Bydd y swyddogion hefyd yn rhoi gwybod i gydweithwyr yn yr Adran Addysg a'r Is-adran Gwella Iechyd am unrhyw dueddiadau Lles a nodwyd drwy Hunanwerthusiadau Ysgolion i sicrhau y gellir darparu'r cymorth priodol i ysgolion. Mae'r Rhaglen hefyd wedi creu Pecyn Cymorth i ysgolion mewn perthynas â'r agenda hon i sicrhau bod yr Offeryn Hunanwerthuso yn cael ei gwblhau'n effeithiol ac yn parhau i fod yn broses barhaus.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles cysylltwch â Catrin Rees, Cydlynydd Ysgolion Iach Arweiniol: CLRees@sirgar.gov.uk neu Shan Thomas, Cydlynydd Ysgolion Iach: ShEThomas@sirgar.gov.uk