Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)

Pan fydd ceisiadau yn cael eu gwneud y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol fel y gwelir yn rhan 2, caiff ceisiadau eu prosesu yn unol â'r trefniadau canlynol.

Mae newid ysgol yn gofyn am ystyriaeth ddifrifol a dylid trafod y mater yn llawn gyda phennaeth ysgol bresennol y plentyn yn y lle cyntaf. Mae angen i'r rhiant/gwarcheidwad ystyried a yw symud ysgol er lles pennaf y plentyn. Bydd yr Adran Addysg a Phlant hefyd yn darparu cyngor os oes angen.

Os bydd rhiant/gwarcheidwad yn penderfynu symud plentyn o un ysgol i'r llall, rhaid llenwi'r ffurflen gais ar-lein.

Nid yw bob amser yn bosibl cynnig lle i ddisgyblion mewn grŵp blwyddyn mewn ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol, gan y gallai'r holl leoedd sydd ar gael fod eisoes wedi'u rhoi i ddisgyblion yn gynharach (h.y. ceisiadau cynharach i symud ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd/blynyddoedd academaidd blaenorol, neu yn ystod y cylch derbyn arferol).

Nid yw symud i ddalgylch ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol. Nid yw cael brawd neu chwaer sy'n cael cynnig lle mewn ysgol neu ei dderbyn i ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol i frodyr a chwiorydd eraill.

Os oes nifer o blant o un aelwyd yn gwneud cais am symud i ysgol, efallai na fydd yn bosibl cynnig lle mewn ysgol i'r holl blant yn yr un ysgol os yw rhai grwpiau blwyddyn eisoes dros ei Nifer Derbyn.

Bydd ceisiadau sy'n dod i law cyn y Flwyddyn Academaidd newydd y mae'r cais ar ei chyfer yn cael eu prosesu yn Nhymor yr Haf cyn i'r Flwyddyn Academaidd ddechrau. Cedwir pob lle ar agor am un tymor yn unig. Dylid asesu ceisiadau sy'n dod i law yn ystod y Flwyddyn Academaidd a rhoi gwybod i rieni/gwarcheidwaid am benderfyniad cyn pen 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr (pa un bynnag yw'r cynharaf) a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Caiff pob cais ei brosesu yn unol â Chôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Bydd angen gwirio ceisiadau ar gyfer plant a nodwyd naill ai fel Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant a Oedd yn Arfer Derbyn Gofal, plant â Datganiad, neu Gynllun Datblygu Unigol cyn eu prosesu.

Ar ôl derbyn lle bydd y lle hwnnw fel arfer yn cael ei gadw am un tymor ysgol cyn cael ei dynnu'n ôl a'i ailddyfarnu ar yr amod bod y dyddiad dechrau yn yr un flwyddyn academaidd y gwnaed cais amdani.

Caiff ceisiadau eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a'r polisïau derbyn a nodir yn y ddogfen hon. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn. Bydd yr e-bost penderfyniad hefyd yn nodi eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac yn esbonio’r broses apelio ac yn nodi'r dyddiad cau ar gyfer apelio.

Ceir rhagor o wybodaeth am y broses apelio yn y ddogfen hon.

Rhestrau aros ar gyfer ceisiadau y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol

Pan na fu modd derbyn disgybl i ysgol o ddewis oherwydd gor-alw, rhaid i’r rhieni roi gwybod i’r Awdurdod trwy e-bostio derbyniadau@sirgar.gov.uk os ydynt am i enw eu plentyn gael ei roi ar y rhestr aros. Bydd y rhestr aros yn cael ei chadw tan ddiwrnod ysgol olaf y flwyddyn academaidd y gwnaethant gais amdani.

Grwpiau blwyddyn eraill

Bydd ceisiadau am leoedd i ddisgyblion mewn grwpiau blwyddyn sy'n wahanol i’r grŵp blwyddyn arferol, yn seiliedig ar ddyddiad geni disgybl, yn cael eu hystyried fesul un, a lle y mae hynny’n berthnasol, yn ôl y meini prawf ar gyfer gor-alw a nodir yn y llyfryn hwn. Mae proses benodol ar gyfer ystyried y ceisiadau hyn a fydd yn cynnwys asesiad gan yr Awdurdod o amgylchiadau unigol pob achos. Nid yw hon yn broses awtomatig.