Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
Nod Gyrfa Cymru yw helpu pobl ifanc i wneud y penderfyniadau anodd hynny am eu dyfodol. Mae gan y gwasanaeth y wybodaeth arbenigol ddiweddaraf am addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, ac fel arfer, bydd Ymgynghorwyr Gyrfaoedd yn gweld plant yn yr ysgol o Flwyddyn 9 yn yr ysgol uwchradd ymlaen, i’w helpu i gynllunio eu dyfodol drwy:
- Trafod pa bynciau i’w hastudio, ac arwyddocâd eu dewis.
- Cynnig cymorth wrth benderfynu ar yrfa.
- Rhoi cymorth iddynt lunio cynllun gweithredu ar gyfer eu gyrfa.
- Rhoi gwybodaeth am swyddi, gyrfaoedd, addysg bellach, addysg uwch a’r nifer fawr o gyrsiau hyfforddiant sydd ar gael.
- Rhoi gwybod iddynt am swyddi gwag, cyfleoedd hyfforddiant, a chyrsiau coleg, gofynion a cheisiadau mynediad.
- Rhoi cymorth arbenigol i’r rhai hynny sydd ag anabledd, a hyrwyddo cyfle cyfartal, beth bynnag yw’r amgylchiadau.
Mae Gyrfa Cymru yn ceisio sicrhau bod rhieni a gwarcheidwaid yn ymwybodol o’r holl wasanaethau a gynigir ac mae'n annog rhieni i gyfranogi ym mhob rhan o'r rhaglen arweiniad gyrfaol. Er mwyn sicrhau cyfranogiad rhieni mae Gyrfa Cymru yn cynnig gwasanaeth hyblyg sy’n ymateb i anghenion rhieni o safbwynt amser, lleoedd a chyd-destun ac sy'n cynnwys trafodaethau unigol â rhieni yn yr ysgol, mewn canolfannau gyrfaoedd neu mewn cyfarfodydd rhieni a digwyddiadau gyrfaoedd.
Gallwch gael gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau ynghylch gyrfa a dysgu mwy am y cymorth rydym yn ei gynnig wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth ar dudalennau rhieni ein gwefan.
Gellir cysylltu ag Ymgynghorwyr Gyrfaoedd drwy’r ysgol neu drwy Gyrfa Cymru:
Ffôn: 0800 028 4844
Gwe-sgwrs
E-bost: post@careerswales.gov.wales e-bostiwch eich ymholiad neu'ch cwestiwn a byddwn ni'n ateb o fewn dau ddiwrnod gwaith.