Trosolwg o'r Her

Trwy gydol mis Hydref, bydd ysgolion yn cystadlu mewn dau gategori arbennig:

Camau Bach – i ysgolion cynradd
Camau Mawr – i ysgolion uwchradd

Caiff disgyblion eu hannog i gerdded, olwyno, beicio, sgwtera, neu Barcio a Chamu ar eu taith i'r ysgol. 

Gadewch i ni weld pa ysgolion yn Sir Gaerfyrddin sy'n gallu gwneud y nifer fwyaf o gamau ar gyfer cynaliadwyedd!

 

Sut Mae'n Gweithio

  • Bob bore, mae dosbarthiadau yn cwblhau arolwg cyflym drwy godi dwylo: Pwy wnaeth gerdded, beicio, olwyno, sgwtera, neu barcio a chamu heddiw?
  • Mae pob dosbarth yn cyfrif eu cyfansymiau gan ddefnyddio ein taflenni cofnodi swyddogol.
  • Mae cydlynwyr ysgol yn cyflwyno cyfansymiau wythnosol i'n tîm.
  • Ar ddiwedd y mis, byddwn ni'n dathlu'r ysgolion sydd wedi cyflawni'r mwyaf o deithiau llesol! 

 

Beth sy'n cyfrif fel Taith Lesol? 

  • Cerdded
  • Beicio neu sgwtera
  • Teithio mewn cadair olwyn neu olwyno
  • Parcio a Chamu (os yw'ch teulu yn parcio 5–10 munud i ffwrdd ac yn cerdded gweddill y daith)

Mae pob cam yn cyfrif – hyd yn oed os ydych chi'n cerdded rhan o'r ffordd yn unig!

 

Gwobrau a Chydnabyddiaeth

Mae'r ysgolion gorau ym mhob categori yn ennill taleb gwerth £100 am y ganran uchaf o deithiau llesol (cynradd + uwchradd) 

Ail Safle – Taleb £50

Trydydd Safle – Taleb £25

Bydd yr holl ysgolion sy'n cymryd rhan yn derbyn tystysgrifau digidol ac yn cael sylw ar y cyfryngau cymdeithasol!

 

Cofrestrwch eich Ysgol

Rhowch wybod i ni am y canlynol:

  • Enw Ysgol
  • Cyswllt allweddol gan gynnwys cyfeiriad e-bost (athro neu weinyddwr)
  • Nifer y dosbarthiadau sy'n cymryd rhan a'r nifer sydd ar y gofrestr ym mhob dosbarth

Byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd.
Bydd pob cyfranogwr yn cael:

  • Taflenni cofnodi (digidol)
  • Llythyrau enghreifftiol i rieni
  • Posteri o'r her a thempledi cyfryngau cymdeithasol

Cofiwch hyrwyddo cyfranogiad eich ysgol gan ddefnyddio posteri, cylchlythyrau a'n hashnodau #CamauBach #CamauMawr

 

Pam cymryd rhan?

  • Lleihau tagfeydd wrth gatiau ysgolion
  • Gwella iechyd a llesiant
  • Helpu i fynd i'r afael â llygredd aer
  • Gwneud cymunedau mwy diogel, tawelach
  • Grymuso pobl ifanc gydag arferion teithio cynaliadwy

Gadewch i ni gamu ymlaen gyda'n gilydd - Ymunwch ag ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin wrth i ni droi camau bach yn newidiadau mawr.