Gwybodaeth i Ddysgwyr
Eich dyfodol …
Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, ac rydym yn gobeithio y bydd ein dosbarthiadau'n rhoi'r sgiliau i chi symud ymlaen gartref, i mewn i waith neu i gyrsiau addysg lefel uwch yng Ngholeg Sir Gâr a darparwyr eraill. Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy am opsiynau dilyniant, gall eich tiwtor neu swyddog y ganolfan eich helpu i edrych ar yr hyn a allai fod ar gael i chi, a hefyd eich cyfeirio at asiantaethau cymorth gyrfaoedd ac arbenigwyr mentora.