Gwybodaeth i Ddysgwyr

Ein haddewid i chi

Byddwn yn ymdrechu i:

  • gwrando ar yr hyn rydych am ei gyflawni, a sut yr hoffech ei gyflawni
  • eich helpu i benderfynu ar y llwybr dysgu cywir i chi
  • cynnwys eich anghenion a'ch diddordebau yn eich dysgu
  • darparu tiwtoriaid cymwys a fydd yn siarad â chi am eich dysgu a'ch cynnydd yn rheolaidd
  • darparu lle glân a chyfforddus i ddysgu
  • hyrwyddo awyrgylch cyfeillgar gyda pharch y naill at y llall yn ganolog iddo
  • cynnig cymorth ymarferol ar gyfer eich dysgu, fel taflenni print bras neu offer wedi'u haddasu
  • anfon neges atoch, pryd bynnag y bo modd, os caiff eich dosbarth ei newid neu ei ganslo


Eich addewid i ni

  • dod i'r dosbarthiadau mor rheolaidd â phosibl - a rhoi gwybod inni os ydych yn absennol am unrhyw reswm
  • cadw ffeil o waith er mwyn cyfeirio ati a chwblhau gwaith cartref/asesiadau yn ôl yr angen
  • rhoi gwybod i'ch tiwtor am unrhyw broblemau a gofyn os nad ydych yn deall rhywbeth
  • rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom ar gyfer gwaith papur, fel cofrestru ac adborth am eich cwrs
  • parchu eraill a pheidio â sarhau, nac achosi niwed, trwy ddefnyddio iaith neu drwy unrhyw weithred neu ymddygiad
  • cefnogi diogelwch a lles pawb yn eich dosbarth ac yn eich canolfan trwy ddilyn cyfarwyddiadau Iechyd a Diogelwch