Cymorth ariannol mewn argyfwng

Rydyn ni'n cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i gartrefi a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd. Mae cronfa frys wedi cael ei sefydlu ar gyfer preswylwyr a busnesau cymwys sydd wedi dioddef llifogydd mewnol. Fodd bynnag, eich cwmni yswiriant ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf a dylai roi arweiniad a chyngor i chi.

Gall cartrefi sydd wedi dioddef llifogydd mewnol wneud cais am daliad o £500.

Gellir darparu £1000 arall i'r preswylwyr hynny sydd heb yswiriant.

Bydd angen i swyddogion y Cyngor ymweld â'r eiddo hynny sydd wedi dioddef llifogydd mewnol a bydd ceisiadau’n cael eu gwirio yn erbyn cofrestr y dreth gyngor a'r gofrestr etholiadol i ddilysu'r preswylwyr.

Mae grant o hyd at £5000 ar gael i fusnesau cymwys sydd wedi dioddef llifogydd mewnol ar eu safleoedd busnes.

Bydd grant ar gael i helpu mentrau preifat a mentrau'r trydydd sector yn dilyn y difrod a achoswyd gan y llifogydd.

Bydd ceisiadau’n cael eu gwirio gan y tîm cymorth busnes yn y Cyngor.