Enwi a rhifo strydoedd
Diweddarwyd y dudalen ar: 28/03/2025
Rydym yn gyfrifol am enwi'r holl ffyrdd a strydoedd, ac am enwi a rhifo'r holl eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Sir Caerfyrddin
Nid oes gan y Post Brenhinol bŵer statudol i enwi stryd, enw neu rif eiddo neu ailenwi neu ail-rifo eiddo.
Gellir ond creu cyfeiriad a derbyn côd post gan y Post Brenhinol ar ôl iddo gael ei enwi a'i rifo'n swyddogol gan y cyngor. Felly os ydych yn cynllunio datblygiad newydd, yn adeiladu eiddo newydd, yn trawsnewid eiddo presennol neu'n dymuno newid enw eich eiddo, rhaid i chi gysylltu â ni ar gyfer creu cyfeiriad neu i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fydd y cyfeiriad yn gyfeiriad swyddogol a bydd hyn yn arwain at broblemau. Er enghraifft, ni fydd y Post Brenhinol, cwmnïau dosbarthu neu wasanaethau cyfleustodau yn adnabod y cyfeiriad; ac efallai y ceir anawsterau wrth gofrestru i bleidleisio a dyrannu cardiau credyd. Hefyd, efallai bydd gwasanaethau Ambiwlans, Tân a Heddlu yn cael anhawster dod o hyd i'r cyfeiriad mewn argyfwng.
Dylid hefyd nodi bod gan y cyngor bŵer i orfodi newidiadau i gyfeiriadau answyddogol er mwyn sicrhau cydymffurfiad â chonfensiynau safonol a bod Polisi'r Cyngor ynghylch enwi a rhifo strydoedd yn cael ei gynnal. Mae'n well dweud wrth y cyngor am eich gofynion enwi a rhifo newydd cyn gynted â phosib.
Mae angen y gwasanaeth Enwi a Rhifo Stryd os:
Ydych wedi adeiladu eiddo newydd
Ydych wedi newid eiddo fel ysgubor i fod yn annedd, neu un eiddo yn fflatiau.
Ydych yn dymuno ail-enwi eich eiddo
Ydych yn dymuno ychwanegu enw i eiddo sydd â rhif ar hyn o bryd
Ydych wedi adeiladu datblygiad newydd o fwy nag un annedd. Gall hyn gynnwys enwi unrhyw ffyrdd o fewn y datblygiad
Ydych yn dymuno newid gweddlun datblygiadau newydd sydd eisoes wedi mynd drwy’r broses enwi a rhifo
Yw preswylwyr y dymuno ail-enwi stryd bresennol
Ydych angen cadarnhad o gyfeiriad
Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud unrhyw gais am Enwi a Rhifo Strydoedd ar gyfer eiddo newydd cyn gynted ag sy’n bosibl yn y broses ddatblygu. Bydd hyn yn rhwystro unrhyw ohiriad wrth gael gwasanaethau ar gyfer yr eiddo.
Er mwyn sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi mor effeithlon â phosibl, gofynnir i'r datblygwr ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
- Ffurflen gais wedi'i llenwi, ei llofnodi a'i dyddio
- Cynllun Lleoliad yn dangos yr eiddo
- Ffi gywir fel y nodir ar raddfa'r taliadau, ni fydd manylion yn cael eu cadarnhau nes bydd y ffi wedi'i derbyn
Mae'r ffurflenni cais, fersiynau pdf y gellir eu newid, ar gael i'w lawrlwytho. Anfonwch eich cais wedi'i gwblhau at: snn@sirgar.gov.uk
- SNN1 - Ailenwi/ychwanegu enw at eiddo sy'n bodoli eisoes (407KB, pdf)
- SNN2 - Un breswylfa newydd (785KB, pdf)
- SNN3 - Datblygiadau newydd - Enwi a rhifo ond dim enwi strydoedd (352KB, pdf)
- SNN4 - Datblygiadau newydd - Enwi a rhifo gyda enwi strydoedd (205KB, pdf)
- SNN5 - Newid llunwedd datblygiad (221KB, pdf)
- SNN6 - Addasu eiddo yn fflatiau neu'n unedau (309KB, pdf)
- SNN7 - Ailenwi stryd ar gais preswylwyr (395KB, pdf)
- SNN8 - Cofrestru eiddo presennol yn swyddogol (589KB, pdf)
- Ffioedd enwi a rhifo strydoedd (126KB, pdf)
Gwybodaeth Talu
I brosesu eich cais, rhaid cyflwyno taliad gyda’ch cais. Ni fydd ceisiadau heb daliad yn cael eu dilysu, ac ni fydd y broses yn dechrau.
Wrth Dalu, Cofiwch Gynnwys:
Pwrpas y taliad - Cadarnhewch ei fod ar gyfer cais Enwi a Rhifo Strydoedd.
Manylion y cais - Rhowch y rhif cyfeirnod neu, os nad oes gennych un eto, eich enw a lleoliad y cais.
Ffi gywir - Sicrhewch eich bod yn talu’r swm a restrir yn y graddfa ffioedd.
Sut i Dalu
Taliadau BACS – Anfonwch neges e-bost at snn@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion a sefydlu taliad BACS.
Dros y Ffôn – Os hoffech siarad ag aelod o staff o'r tîm arianwyr, ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa, Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9 AM i 5 PM.
Yn Bersonol – Gallwch dalu mewn arian parod, cerdyn credyd/debyd, neu siec yn eich Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid agosaf yn Rhydaman, Caerfyrddin neu Llanelli.
Pan gymeradwyir datblygiad newydd, mae'r Cyngor yn creu cyfeiriadau sy'n endidau 'dros dro'. Rhennir manylion y datblygiad arfaethedig â'r Post Brenhinol a fydd wedyn yn 'cadw a chofnodi' y cyfeiriadau ar ei gronfa ddata cyfeiriadau eiddo 'heb eu hadeiladu hyd yn hyn'. Er mwyn atal post rhag cael ei anfon at breswylfeydd/adeiladau nad ydynt yn bod, ni ddechreuir defnyddio'r cyfeiriadau hyd nes bydd deiliaid ynddynt neu hyd nes y bydd y preswylfeydd/adeiladau bron â chael eu cwblhau ac felly'n gallu derbyn gwasanaethau post.
Wrth i bob eiddo nesáu at gael ei gwblhau, bydd yn ofynnol i'r datblygwr hysbysu'r tîm Enwi a Rhifo Strydoedd ynghylch hynny a gwneud cais am ddechrau defnyddio'r cyfeiriad. Pan hysbysir ynghylch hyn, rhoddir cadarnhad i'r holl wasanaethau mewnol a phartneriaid allanol, gan gynnwys y gwasanaethau brys.
Hysbysir y Post Brenhinol er mwyn sicrhau bod y cofnodion priodol yn cael eu symud o'i gronfa ddata 'heb eu hadeiladu hyd yn hyn' i'w Ffeil Cyfeiriad Côd Post (PAF) gan olygu bod y manylion ar gael at ddefnydd cyffredinol a defnydd cyfeirio ledled y Deyrnas Unedig o fewn 24-48 awr, er gall yr ychwanegiad/cywiriad hwn gymryd sawl mis i gyrraedd defnyddwyr data'r Ffeil Cyfeiriad Côd Post.
Bydd hyn yn digwydd wrth i gwmnïau allanol ddiweddaru eu cronfeydd data drwy ddefnyddio'r Cynnyrch Rheoli Cyfeiriadau diweddaraf, nad oes gan y Post Brenhinol unrhyw awdurdodaeth drostynt.
- British Gas
- BT
- Cyngor Tref/Cymuned
- Treth y Cyngor
- Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys
- Cofrestru Etholiadol
- Y Gofrestrfa Tir
- Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Yr Arolwg Ordnans
- Y Post Brenhinol
- Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG (Rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin)
- Dŵr Cymru
- Western Power Distribution
Cynllunio
Canllaw Cais Cynllunio
Croeso i'w Hwb cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwiliwch am gais cynllunio
Torri rheolau cynllunio
Newid defnydd (Cynllunio)
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy
Gwnewch gais am arian Adran 106
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
Cadwraeth a chefn gwlad
Enwi a rhifo strydoedd
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Polisi Cynllunio
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
Rheoli Maetholion mewn Cynllunio a Datblygu
- Byrddau Rheoli Maetholion
- Cyfrifiannell Cymru
- Effaith Canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar Asesiadau Amonia
- Asesiadau Cyflwr Morol (2024)
- Asesiad Cydymffurfiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru 2024 a Dalgylchoedd Afonydd Sir Gaerfyrddin
- Cwestiynau Cyffredin