Cwsg
Mae cwsg yn helpu ein hymennydd i weithio'n dda. Mae'n ein helpu i wrando, talu sylw, a deall yr hyn y mae pobl yn ei ddweud neu'r hyn yr ydym yn ei ddarllen. Pan nad ydym yn cael digon o gwsg, gallwn deimlo'n sarrug, ei chael hi'n anodd gwneud pethau, a chynhyrfu ag eraill yn haws. Mae cwsg hefyd yn helpu ein cyrff i frwydro yn erbyn germau fel nad ydym yn mynd yn sâl.
Mae angen gwahanol lefelau o gwsg ar wahanol bobl. Ond mae angen 7 i 9 awr o gwsg bob nos ar y rhan fwyaf o oedolion.
Mae manteision iechyd meddwl cysgu da yn cynnwys rhoi hwb i'ch hwyliau, lleihau straen a helpu gyda phryder.
Os ydych chi'n cael trafferth cysgu, gall gwybod sut i gysgu'n well wneud gwahaniaeth mawr.
Nid yw cwsg da yn golygu cysgu am amser hir. Mae'n ymwneud â chael y math iawn o gwsg.
Ar y dudalen hon, fe welwch ddolenni i wybodaeth am bethau sy'n ein helpu i gysgu'n dda: ein hiechyd, ein hystafelloedd gwely, sut rydyn ni'n teimlo, a beth rydyn ni'n ei wneud bob dydd.
- Cysgu'n well – Hapus
- GIG 11 Cymru - Iechyd A-Y : Blinder
- Cwympo i gysgu'n gyflymach a chysgu'n well - Every Mind Matters – GIG (Gwefan allanol, Saesneg yn unig)
Mae Hywel Dda wedi cymeradwyo Apiau a all hefyd helpu:








