Lles Meddyliol
Mae lles meddyliol yn ymwneud â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Mae gennym les meddyliol da pan fyddwn yn teimlo’n dda, yn gallu gwneud pethau sy’n bwysig i ni, ac yn ymdopi â heriau bywyd.
Mae bob amser yn bwysig gofalu am ein lles meddyliol, hyd yn oed pan fydd bywyd yn teimlo’n hawdd, ond hefyd pan fydd yn teimlo’n anodd. Mae hyn yn helpu i gadw ein meddyliau a'n cyrff yn iach.
Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud i wella ein lles meddyliol. Mae Hapus yn rhannu syniadau a phethau defnyddiol y gallwn eu defnyddio i hybu ein lles meddyliol ac i helpu eraill i deimlo’n well hefyd.
Mae MIND yn cynnig gwybodaeth ar-lein am les meddyliol a chymorth unigol neu grŵp mewn lleoliadau lleol ar draws Hywel Dda.










