Osgoi Sylweddau Niweidiol
Mae sylweddau a all niweidio eich iechyd yn cynnwys alcohol, nicotin a chyffuriau anghyfreithlon.
Alcohol
Gall yfed llai o alcohol leihau'r risg o glefyd yr afu, problemau iechyd meddwl a damweiniau yn sylweddol. Gall hyd yn oed ychydig bach o alcohol gael effaith ar eich iechyd a lles. Gall gwneud dewisiadau gwybodus am yfed, gan gynnwys yfed llai neu beidio ag yfed o gwbl, arwain at well iechyd corfforol a meddyliol. Mae cymorth ar gael yn lleol i helpu pobl i leihau neu roi'r gorau i yfed. Mae hyn yn cynnwys cyngor, ymyriadau, a gwasanaethau cymunedol.
Canllawiau Yfed Alcohol
Nid oes terfyn diogel ar faint o alcohol y gall pobl ei yfed. Cynghorir pobl i gadw at y canllawiau presennol. Dilynwch y canllawiau hyn i gadw eich hun yn iachach:
- Mae 14 uned yr wythnos yn derfyn mwy diogel (Gwefan allanol, Saesneg yn unig)
- Cael o leiaf 3 diwrnod heb alcohol yr wythnos.
- Os ydych yn feichiog, neu os oes posibilrwydd y gallech fod, mae'n fwy diogel peidio ag yfed o gwbl.
- Rydym yn deall y gall fod yn anodd mesur neu wybod faint rydych yn ei yfed, neu sut olwg sydd ar uned o alcohol, yn enwedig gartref. Mae yna apiau sy'n eich helpu i olrhain faint rydych chi'n ei yfed, neu fe allech chi gadw dyddiadur, neu ddefnyddio cyfrifiannell uned ar-lein – Offer Rhyngweithiol
Alcohol - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae dolenni i gymorth pellach:
- GCAD - Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed - GCAD yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phryder ynghylch cyffuriau neu alcohol yn ardal Dyfed. Gall teuluoedd ac anwyliaid hefyd gael cymorth drwy GCAD – CHOICES yw’r gwasanaeth cymorth alcohol neu gyffuriau dan 18 oed. Ffôn: 0330 363 9997 E-bost: confidential@d-das.co.uk
- Mae Dan24/7 yn Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Ddwyieithog rhad ac am ddim - Rhadffôn: 0808 808 2234. E-bost: dan@helpline.wales
- Alcohol Change UK yn elusen alcohol yn y DU. (Gwefan allanol, Saesneg yn unig)
- Alcoholics Anonymous – Ffoniwch am ddim 0800 917 7650. E-bost help@aamail.org (Gwefan allanol, Saesneg yn unig).
- Drink Wise, Age Well - Llinell gymorth alcohol i bobl dros 50 oed (Gwefan allanol, Saesneg yn unig). Os ydych chi dros 50 oed ac yn pryderu am eich yfed, neu’n poeni am rywun arall, mae’r llinell gymorth hon ar eich cyfer chi: 0808 808 2234.
- Smart Recovery - Hyfforddiant Hunanreoli ac Adfer – cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb (Gwefan allanol, Saesneg yn unig)
- Apiau ORCHA
Ysmygu a Fepio
Rhoi'r gorau i ysmygu yw un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud i'ch iechyd. Gall y ddau gynyddu eich risg o glefyd y galon, canser, a chyflyrau anadlol. Mae cymorth ar gael yn lleol drwy wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu, gan gynnwys cyngor am ddim, therapi amnewid nicotin (NRT), a chymorth grŵp.
- Gall cymorth rhoi’r gorau i smygu am ddim y GIG eich helpu i roi’r gorau iddi am byth—p’un a ydych yn rhoi’r gorau i ysmygu, fepio, neu’r ddau. Mae pob taith yn unigryw, a bydd cynghorwyr arbenigol yn gweithio gyda chi i greu cynllun personol sy'n addas i'ch nod. Dim darlithoedd, dim barn – dim ond cyngor ymarferol, NRT, a digon o anogaeth a chefnogaeth.
- Mae gan y Tîm ysmygu a lles hefyd gynghorwyr arbenigol yn y Gwasanaethau Mamolaeth, gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a Gwasanaethau Iechyd Meddwl.
- Gallwch hefyd gael cymorth yn Helpa Fi i Stopio a fydd wedyn yn eich cysylltu â'ch gwasanaeth cymorth ysmygu agosaf.
- Gallwch hunan-gyfeirio drwy ffonio 0300 303 9652, nei e-bostio smokers.clinic@wales.nhs.uk
- Mae Apiau Ysmygu a Fepio Orcha yn ddefnyddiol i gadw golwg ar eich nodau, gan gynnwys arbed arian, olrhain diwrnodau rhoi'r gorau iddi a gwybodaeth a chyngor defnyddiol arall ar roi'r gorau iddi.
Cyffuriau
Rydym yn deall yr heriau a ddaw yn sgil defnyddio sylweddau. Mae ein tîm ymroddedig yma i gynnig cefnogaeth gynhwysfawr, gwybodaeth werthfawr, a chyngor ymarferol i'ch helpu i lywio unrhyw heriau a allai fod gennych.
P'un a ydych yn ceisio arweiniad i chi'ch hun neu rywun annwyl, rydym yn darparu ystod o adnoddau wedi'u teilwra i'ch anghenion. O wasanaethau cwnsela ac ymyriadau i ddeunyddiau addysgol, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich taith tuag at adferiad.
GCAD - Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed - GCAD yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phryder ynghylch cyffuriau neu alcohol yn ardal Dyfed. Gall teuluoedd ac anwyliaid hefyd gael cymorth drwy GCAD – CHOICES yw’r gwasanaeth cymorth alcohol neu gyffuriau dan 18 oed. Ffôn: 0330 363 9997. E-bost: confidential@d-das.co.uk
Dyma rai dolenni defnyddiol eraill i wybodaeth a gwasanaethau:
- Defnydd o alcohol a sylweddau
- Menopos a chaethiwed
- Mae Dan24/7 yn llinell gymorth cyffuriau ac alcohol ddwyieithog rhad ac am ddim - Rhadffôn: 0808 808 2234 E-bost: dan@helpline.wales
- Mae Wedinos yn brosiect lleihau niwed sy'n profi sylweddau i roi gwybodaeth gyflym a chywir i ddefnyddwyr unigol.
- Gwasanaeth Clicio a Dosbarthu Naloxone
- Speic ar Feic - gwasanaeth lleihau niwed a gynigir gan GCAD a Choices.







