Perthnasoedd Iach a chysylltiadau cymdeithasol

Mae perthnasoedd yn bwysig i'n hiechyd a'n lles. Perthnasoedd da yw'r rhai lle gallwn gysylltu mewn ffordd onest, ymddiriedus, barchus ac ystyrlon.

Mae'n dechrau gyda bod yn garedig i ni ein hunain, sylwi a deall ein teimladau ein hunain.

Mae hyn yn ein helpu i gysylltu ag eraill, sy'n bwysig iawn ar gyfer lles meddyliol da.

Efallai y byddwn yn cysylltu â theulu a ffrindiau, neu â phobl sydd â diddordebau tebyg neu brofiadau a rennir. Mae treulio amser gyda phobl yr ydym yn meddwl lot amdanynt yn bwysig. Mae gwneud y pethau rydyn ni’n eu mwynhau gyda phobl eraill yn helpu  i gynnal ein lles meddyliol hyd yn oed pan fydd pethau’n mynd yn dda.

Mae helpu eraill yn ffordd wych o gysylltu. Efallai y byddwn yn gwirfoddoli ein hamser ar gyfer achos sy'n bwysig i ni, helpu ein cymdogion, neu fod yno i rywun sy'n ei chael hi'n anodd ac sydd angen siarad.

Pobl – Hapus

Dewis Cymru

 

I gael cymorth i ddod o hyd i sefydliadau a all eich helpu i feithrin eich cysylltiadau, gweler y canlynol: