Mae'r tîm hwn yn gyfrifol am ddarparu ystod o gymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion ifanc rhwng 16 a 25 oed a'u teuluoedd. Mae'r tîm yn gweithio gydag unigolion, teuluoedd a grwpiau y mae ystod eang o faterion yn effeithio arnynt, er enghraifft:
- Perthnasoedd teuluol
- Materion emosiynol ac iechyd meddwl
- Digartrefedd
- Heb ymwneud ag addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
Allgymorth cymunedol a gwaith ieuenctid ôl-16
Rydym yn clustnodi ac yn cefnogi pobl ifanc agored i niwed (16-25), gan gynnwys y rheiny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, pobl ifanc sy'n gadael gofal, pobl ifanc sy'n hysbys i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, sydd â phroblemau o ran llety a'r rheiny sydd angen gymorth arall.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc agored i niwed yn unigol ac mewn grŵp.
Mae ein tîm yn darparu amrywiaeth o gymorth personol i deuluoedd a phobl ifanc er mwyn mynd i'r afael â'r nifer o rwystrau i fynd i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
Rydym ar gael i alluogi pobl ifanc i symud ymlaen i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant a'u cynorthwyo.
Sesiynau Galw Heibio Cymunedol
Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio cymunedol sy'n agored i bobl ifanc ar draws y sir.
- Caerfyrddin: Dydd Mawrth, Dr Mz: 12-4pm
- Llanelli, Canolfan Ieuenctid y Bwlch: Dydd Mercher: 2-4pm
- Rhydaman, Prosiect Ieuenctid Streets: Dydd Mercher: 1-4pm
Pobl ifanc agored i niwed rhwng 16 a 25, a'u teuluoedd, y gall fod arnynt angen gymorth arall.
Ledled Sir Gaerfyrddin mewn amrywiaeth o leoliadau lle gellir cyrraedd teuluoedd â phobl ifanc, e.e. Colegau, Canolfannau Ieuenctid, Canolfannau Gwaith a lleoliadau'r sector gwirfoddol.
Atgyfeiriadau i: NEETKIT@sirgar.gov.uk
01554 744 322