Sesiwn ysgolion yn Archifau Sir Gaerfyrddin
Diweddarwyd y dudalen ar: 11/03/2026
Astudiaeth Ardal Bwrpasol
Bydd eich disgyblion yn gosod y cwestiynau. Beth maen nhw eisiau ei ddarganfod am eu hardal leol? Byddwn yn cyfarfod ar Teams ar gyfer cyflwyniadau a throsolwg o sut gall yr Archifau helpu gyda phrosiect ymchwil sy'n edrych ar eich ardal. Yna bydd disgyblion yn gofyn cwestiynau am eu hardal leol yr hoffent gael gwybod amdani. Yna byddant yn ymweld â ni yn yr Archifau (tua phythefnos yn ddiweddarach) ac yn mynd ati i ymchwilio.
Mae sesiynau nodweddiadol yn cynnwys y dogfennau canlynol: cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, cyfeirlyfrau masnach, erthyglau papur newydd, cofnodion bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau.
Yn bwysicaf oll, mae ein holl ddogfennau'n rhai lleol. Gallwn helpu i adrodd hanes eich ardal leol.
- Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)
- Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)
- Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr
- Maes Dysgu: Dyniaethau
- Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5
- Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol
- Cost: Am Ddim
- Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams
Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@sirgar.gov.uk
Y Fictoriaid
Mae'n debyg mai oes Fictoria yw ein pwynt cryfaf. Os ydych chi'n astudio'r Fictoriaid yna cysylltwch â ni. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn addysg, iechyd, trosedd a chosb, diwydiannu neu hanes eich ardal, gallwn eich helpu chi a'ch disgyblion i ddarganfod llawer mwy am yr hyn a oedd yn digwydd yn eich ardal yn ystod oes Fictoria. Mae ein holl ddogfennau'n rhai lleol felly rydym yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd yn digwydd yn ein hardal ni yn unig!
Mae pynciau diweddar yn cynnwys Ffermio, siopao, ysgoilion a throsedd
Os oes gennych chi a'ch disgyblion rywbeth gwahanol mewn golwg, cysylltwch â ni a byddwn yn rhoi cyngor ar yr hyn y gallwn ei wneud.
- Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)
- Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)
- Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr
- Maes Dysgu: Dyniaethau
- Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5
- Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol
- Cost: Dim
- Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams
Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@sirgar.gov.uk
Yr Ail Ryfel Byd
Bydd disgyblion yn defnyddio llyfrau log ysgol a chofrestri derbyn, papurau newydd, cofnodion llety a dyddiaduron i ddarganfod mwy am y diancwyr a ddaeth i Sir Gaerfyrddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
- Lefel cynnydd: 1-5 (gellir ei addasu)
- Oedran targed: Bl 1-9 (gellir ei addasu)
- Hyd y sesiwn: 1 i 2 awr
- Maes Dysgu: Dyniaethau
- Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig: 1-5
- Sgiliau Trawsgwricwlaidd: Llythrennedd; Rhifedd, Meddwl yn Greadigol a Datrys Problemau; Creadigrwydd a Blaengaredd; Effeithiolrwydd Personol
- Cost: Am Ddim
- Lleoliad: Ystafell ymchwil yr Archifau neu drwy Teams
Am ragor o wybodaeth neu i wneud trefniant, cysylltwch â: archifau@sirgar.gov.uk
Y Tuduriaid wrth eu gwaith
Bydd disgyblion yn defnyddio cytundebau prentisiaeth i ddysgu mwy am fywydau gwaith pobl ifanc yn ardal Sir Gaerfyrddin yn ystod oes y Tuduriaid. Byddwn yn trafod cysyniad prentis a meistr; y mathau o swyddi a gafwyd yn ystod oes y Tuduriaid a manteision ac anfanteision dysgu crefft. Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfle i wneud eu cytundebau prentisiaeth eu hunain.