Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Yn yr adran hon
Gwybodaeth am y Tywydd
Mae gwybodaeth amserol a chywir yn elfen hanfodol wrth reoli'r ymateb gweithredol i ddigwyddiadau tywydd sy'n datblygu. Mae'r tywydd yn y DU yn destun set dynamig a chymhleth iawn o newidion, a datblygir rhagolygon i ddarparu'r ddealltwriaeth orau bosibl o dywydd tebygol. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod mai rhagolygon yn unig yw'r rhain a gall y tywydd gwirioneddol fod yn wahanol i'r hyn a ddisgwylir.
Mae Tîm Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor Sir yn gweithio'n agos gyda nifer o asiantaethau i rannu gwybodaeth a chydlynu ymatebion. Mae gwybodaeth fanwl y gallwn ei darparu ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn galluogi rhagolygwyr i wella manylion eu rhagolygon sy'n helpu gyda'n hymateb.
Fel arfer bydd yr awdurdod yn cael rhybudd o dywydd garw ymlaen llaw drwy'r gwasanaethau canlynol:
- Y Ganolfan Darogan Llifogydd Genedlaethol.
- Ymgynghorydd Argyfyngau Sifil y Swyddfa Dywydd.
- Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Rhybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd (Rhybuddion Melyn/Oren/Coch).
- Rhagolygon tywydd ffordd lleol pwrpasol ar gyfer peryglon y gaeaf.
- Safleoedd monitro tywydd ar ochr y ffordd a systemau rhybuddio o fewn Sir Gaerfyrddin a'r ardal gyfagos.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu gwybodaeth i'n hasiantaethau partner a'n rhagolygwyr tywydd o gyfres o orsafoedd tywydd sydd wedi'u lleoli'n strategol o amgylch y Sir i ddarparu'r gynrychiolaeth orau bosibl o dywydd lleol. Ar hyn o bryd mae 13 o orsafoedd tywydd pwrpasol o'r fath sy'n darparu ystod eang o ddata tywydd drwy gydol y flwyddyn gan gynnwys gwybodaeth am dymheredd wyneb y ffordd, tymheredd aer, lleithder, data gwynt a glawiad ynghyd â delweddau camera amser real.
Mae'r gorsafoedd wedi'u cysylltu o bell â system wybodaeth am dywydd sy'n casglu data y mae ein partneriaid yn ei gyrchu ac sydd ar gael i staff yn yr is-adran priffyrdd bob amser gan gynnwys y tu allan i'r oriau arferol. Mae cysylltiadau â'r system hefyd yn cael eu darparu i'r sefydliad rhagweld tywydd sy'n galluogi gwasanaeth monitro a rhagweld lleol mwy manwl ac wedi'i deilwra. Cedwir golwg ar y system bob awr o'r dydd a’r nos gan ein rhagolygwyr tywydd a rhoddir rhybudd i Swyddogion y Cyngor Sir sydd ar ddyletswydd pan welir bod yr amodau'n troi'n ddifrifol. Mae hyn hefyd yn arbennig o ddefnyddiol wrth reoli tywydd garw eithafol.
Dyma leoliadau'r gorsafoedd tywydd presennol:
- Y Mynydd Du
- Bryn Iwan
- Carmel
- Pump-hewl
- Ffordd osgoi Cydweli
- Llangadog
- Meidrim
- Pont-tyweli
- Porth-y-rhyd
- Pumsaint
- Tafarn Jem
- Tanerdy
- Hendy-gwyn ar Daf