Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd

Llifogydd

Yn gyffredinol, mae nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gyfrifol am reoli llifogydd gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (Prif Afonydd, Arfordirol a Llanwol), yr Awdurdod Dŵr (Llifogydd o garthffosydd), Cyrsiau Dŵr Arferol (Amddiffyn rhag Llifogydd CSC), Dŵr Daear a Dŵr Wyneb (Amddiffyn rhag Llifogydd CSC).

Fel arfer, caiff rhybuddion llifogydd eu cyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru a dangosir y mathau o rybudd a roddir yn y tabl isod sydd hefyd yn nodi'r ymateb sefydliadol neu amlasiantaethol tebygol.

Lle mae llifogydd ar ffyrdd oherwydd llanw uchel iawn, cyrsiau dŵr cyfagos yn torri eu glannau neu ddŵr wyneb o dir cyfagos, efallai y bydd angen sicrhau diogelwch y cyhoedd drwy gau ffyrdd hyd nes bod y dŵr llifogydd yn cilio ac yn caniatáu i'r ffyrdd gael eu hailagor yn ddiogel unwaith eto.

Mae'r awdurdod priffyrdd yn gyfrifol am reoli dŵr sy'n naturiol yn disgyn ar wyneb y briffordd. Ein prif ffocws yw tynnu dŵr wyneb o'r briffordd mewn modd mor effeithiol â phosibl er mwyn lleihau'r risg i ddefnyddwyr y ffordd. Mae glanhau cwteri ffyrdd yn rheolaidd a rheoli'r gwaith o gydgysylltu pibellau a chwlfertau yn ddull allweddol o leihau'r risg y bydd dŵr yn sefyll ar wyneb y ffordd. Mae'r risg o gwteri wedi'u rhwystro oherwydd dail ar ei mwyaf yn ystod yr hydref.

Cyn cyfnodau lle y rhagwelir glawiad trwm bydd Timau Priffyrdd yn gwirio lleoliadau ar y rhwydwaith lle y ceir perygl hysbys o lifogydd i waredu unrhyw rwystrau amlwg yn ogystal â chlirio gridiau sbwriel ymlaen llaw ar asedau perygl llifogydd â blaenoriaeth.

Deellir bod dwyster cynyddol o law yn cael ei brofi'n amlach oherwydd newid yn yr hinsawdd. Gall y cyfnodau hyn o lawiad dwysedd uchel greu cyfaint o ddŵr wyneb yn gyflym sydd, am gyfnod o amser, yn uwch na chapasiti'r systemau draenio'r briffordd. O ganlyniad, gall fod yna byllau dŵr wyneb am gyfnod. Fel arfer bydd y pyllau hyn yn diflannu wrth i'r glawiad arafu ac wrth i ddraeniau'r priffyrdd glirio'r dŵr, cyhyd â bod lefelau'r cyrsiau dŵr wedi cilio.

Lle y rhagwelir perygl llifogydd i eiddo, efallai y bydd yr awdurdod yn defnyddio bagiau tywod lle gallant fod yn effeithiol ar sail argyfwng dros dro yn ystod llifogydd i ailgyfeirio dŵr bas yn bennaf mewn cysylltiad â'i asedau priffyrdd a seilwaith ei hun. Anogir perchnogion eiddo i gymryd camau ymarferol i ddiogelu eu heiddo, a cheir rhagor o fanylion ym Mholisi bagiau tywod diweddaraf Sir Gaerfyrddin.

Lle bo'n briodol, bydd bagiau tywod yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau strategol ar draws y Sir yn union cyn digwyddiad storm. Bydd datganiadau yn cael eu cyhoeddi gan ein Swyddfa'r Wasg pan fydd hyn yn digwydd.

Ni ddylid dibynnu'n llwyr ar y Cyngor i ddarparu cymorth yn ystod llifogydd. Fodd bynnag, bydd achlysuron lle mae llifogydd yn annisgwyl, neu'n effeithio ar ardaloedd newydd, a bydd y Cyngor yn helpu cyn belled ag y mae ei adnoddau'n caniatáu.

Mewn ardaloedd mwy gwledig, mae draeniad y briffordd yn cynnwys ffosydd draenio ar hyd y ffyrdd. Fel arfer y tirfeddiannwr cyfagos sydd â chyfrifoldeb dros ffosydd wrth ymyl y ffordd a dylid eu harchwilio a'u cynnal yn rheolaidd gan y tirfeddiannwr. Fel arfer, bydd gan yr Awdurdod Priffyrdd yr hawl i ollwng dŵr wyneb i ffos wrth ymyl y ffordd neu'r cwrs dŵr. Lle bo angen, gall yr Awdurdod Priffyrdd ei gwneud yn ofynnol i'r tirfeddiannwr cyfagos wneud gwaith cynnal a chadw ar ffos i atal niwsans rhag cael ei achosi ar y briffordd (Tirfeddianwyr Cyfagos a'r Briffordd Gyhoeddus llyw.cymru).