Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Yn yr adran hon
- Ymateb y gwasanaeth
- Hyfforddiant
- Llwybrau triniaeth gwasanaeth dros y gaeaf
- Digwyddiadau Eira
- Llwybrau Troed / Llwybrau Beicio
- Meysydd Parcio
- Biniau graean
- Croesfannau rheilffordd
- Adnoddau Gwasanaeth dros y Gaeaf
Llwybrau triniaeth gwasanaeth dros y gaeaf
Yn debyg i ddull y Cyngor Sir o ymdrin â digwyddiadau tywydd garw eraill, rheolir yr ymateb i dywydd y gaeaf yn gyfrannol mewn ymateb i ddifrifoldeb yr amodau tywydd disgwyliedig, neu'r tywydd sy'n cael ei brofi, a'r risgiau a gyflwynir.
Mae ein dull o ddewis llwybrau triniaeth yn unol â'r Côd Ymarfer Cenedlaethol ac mae'n seiliedig ar ddull sy'n seiliedig ar risg fel y nodir yn Rhan 4.1 a 4.2 o'r Llawlyfr hwn. Mae'r dull hwn yn defnyddio'r Hierarchaeth Rhwydwaith Priffyrdd mabwysiedig i lywio pob agwedd ar reoli a chynnal a chadw priffyrdd a sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu cyfeirio tuag at ardaloedd lle mae eu hangen fwyaf i leihau'r risg i'r cyhoedd sy'n teithio.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu'r rhwydweithiau triniaeth canlynol:
Y Prif Rwydwaith | Rhwydwaith o lwybrau strategol bwysig. Bydd y llwybrau hyn fel arfer yn cael eu trin cyn tymereddau rhewllyd a ragwelir a byddant yn ganolbwynt allweddol yn ystod tywydd garw. |
Y Rhwydwaith Eilaidd | Rhwydwaith atodol o lwybrau eilaidd sy'n cefnogi'r Prif Rwydwaith. Dim ond yn ystod tywydd gaeafol sy'n ddifrifol neu sy'n para am gyfnod hir y bydd y llwybrau hyn yn cael eu trin, os bydd adnoddau'n caniatáu, ar ôl i'r Prif Rwydwaith gael ei drin. |
Rhwydwaith Cydnerthedd | Rhwydwaith strategol 'craidd' llai. Bydd gweithrediadau'r Gwasanaeth dros y Gaeaf yn cael eu lleihau i ganolbwyntio ar drin y Rhwydwaith Cydnerthedd os yw adnoddau neu amodau tywydd yn golygu nad yw triniaeth barhaus y Prif Rwydwaith yn gynaliadwy. |
Sylwer: Mae'r llwybrau uchod yn cael eu trin yn ychwanegol at gefnffyrdd a thraffyrdd.
Y Prif Rwydwaith
Mae Prif Rwydwaith Sir Gaerfyrddin ar gyfer gwasanaeth dros y gaeaf yn deillio o hierarchaeth y rhwydwaith ffyrdd, gan flaenoriaethu'r llwybrau prysuraf a mwyaf critigol. Mae hyn yn cynnwys llwybrau CHSR, CH1 a CH2 a, lle bo angen, caiff ei ymestyn i gynnwys cyfleusterau hanfodol fel y dangosir isod:
Hierarchaeth ffyrdd | Disgrifydd | Math o ffordd | Disgrifiad (amcangyfrif o'r lefel traffig dyddiol) |
---|---|---|---|
CHSR | Llwybr strategol | Cefnffyrdd a rhai Priffyrdd dosbarth ‘A’ rhwng Prif Gyrchfannau | Llwybrau sy'n galluogi teithio rhwng lleoliadau o arwyddocâd rhanbarthol (Nodir llwybrau strategol yn seiliedig ar eu pwysigrwydd yn rhanbarthol yn hytrach na lefel y traffig). |
CH1 | Prif ddosbarthwr | Rhwydwaith Trefol Mawr a Chysylltiadau Rhyng-gynradd. Traffig pellter byr - canolig | Teithio rhwng lleoliadau (lefel traffig 10,000 - 20,000) |
CH2 | Dosbarthwr Eilaidd | Ffyrdd dosbarthiadau B ac C a rhai llwybrau trefol di-ddosbarth sy’n cludo bysiau, cerbydau nwyddau trwm a thraffig lleol â mynediad ffryntiad a chyffyrdd rheolaidd | Teithio rhwng lleoliadau (5,000 - 10,000) |
Cyfleusterau critigol | • Ysbytai a Gorsafoedd Ambiwlans • Gorsafoedd Tân • Prif Orsafoedd Heddlu • Llwybrau Trafnidiaeth Gyhoeddus Allweddol • Y Prif Golegau ac Ysgolion • Gorsafoedd Trên a Chyfnewidfeydd Bws • Porthladdoedd Fferïau (Cefnffyrdd) |
Y Rhwydwaith Eilaidd
Bydd gan Dîm Priffyrdd y Cyngor Sir brif ffocws yn ystod tywydd garw ar Brif Rwydwaith y Sir. Yn dilyn triniaeth foddhaol o'r Prif Rwydwaith, yn unol ag amodau'r tywydd a'r adnoddau sydd ar gael, bydd y Rhwydwaith Eilaidd yn cael ei drin a fydd yn cynnwys rhai llwybrau bysiau, llwybrau i bentrefi llai, anheddau a rhiwiau serth.
Yn ogystal â'r rhwydwaith priffyrdd, efallai y byddwn yn trin lleoliadau allweddol eraill gan gynnwys prif feysydd parcio. Bydd triniaeth yn cael ei chynnal yn unol â'r adnoddau ac mewn ymateb i flaenoriaethau lleol ac amodau sy'n dod i'r amlwg. Rhoddir blaenoriaeth gyntaf bob amser i gadw cefnffyrdd a'r Prif Rwydwaith yn glir. Mae llwybrau eilaidd i raddau helaeth yn cynnwys lefel hierarchaeth CH3 a llawer o lwybrau CH4. Gall ffyrdd eraill gael eu trin yn unol â'r adnoddau sydd ar gael.
Rhwydwaith Cydnerthedd
Diffinnir y rhwydwaith cydnerthedd fel rhwydwaith strategol llai a fydd yn cael ei drin os nad yw adnoddau neu amodau tywydd yn caniatáu parhau i drin y Prif Rwydwaith cyfan. Gall adnoddau cyfyngedig gynnwys tanwydd, halen/graean, cerbydau neu bersonél. Rhoddir blaenoriaeth i gynnal triniaeth o'r rhwydwaith cefnffyrdd ar ran Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru.
Ar gyfarwyddiadau'r Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith, mewn amgylchiadau eithafol efallai y bydd angen lleihau darpariaeth gwasanaeth a pheidio â pharhau â rhai agweddau ar y gwasanaeth. Mae'n bosibl y bydd hyn yn berthnasol yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw lle mae halen yn prinhau ac mae'r rhagolwg yn rhagweld cyfnodau pellach o dywydd oer, neu ffactorau eraill sy'n amharu ar ddarpariaeth gwasanaeth.