Y Pump Angheuol

Mae gyrru tractor, hyd yn oed ar gyflymder cymharol isel, yn gofyn ichi ganolbwyntio’n llwyr.

Waeth beth fo’r cerbyd rydych chi’n ei yrru, ac a ydy’r siwrnai yn gysylltiedig â gwaith, cymudo neu siwrnai breifat, gall adnabod y risgiau a gweithredu’n gyfrifol leihau’r tebygolrwydd o fod mewn gwrthdrawiad difrifol neu angheuol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl eisoes yn ymwybodol bod gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn anghyfreithlon, ond mae lleiafrif bach yn dal i ddewis bod yn hunanol a chymryd y risg. Gall effeithiau alcohol a chyffuriau barhau am gryn amser. Byddwch yn ymwybodol y gall rhai mathau o feddyginiaeth ar bresgripsiwn neu dros-ycownter effeithio ar eich gallu i yrru neu ddefnyddio peiriannau’n ddiogel.

Gall torri’r terfyn cyflymder neu yrru o fewn y terfyn ond yn rhy gyflym ar gyfer yr amgylchiadau arwain at ganlyniadau dinistriol. Mae’n cymryd mwy o amser i stopio ac os bydd gwrthdrawiad, mae hwnnw’n fwy difrifol, gan achosi mwy o niwed i bobl mewn cerbydau ac unrhyw ddefnyddiwr ffordd arall sy’n cael ei daro.

Mae gyrru diofal, sy’n gallu cynnwys gyrru’n rhy agos at gerbydau eraill neu fethu â chydymffurfio ag arwyddion neu farciau ffyrdd, nid yn unig yn wrthgymdeithasol ond yn gallu arwain at wrthdrawiad.

Gwisgwch wregys diogelwch – mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Gall peidio â gwisgo gwregys fod yn benderfyniad angheuol hyd yn oed ar siwrneiau byr, cyfarwydd neu ar gyflymder isel.

Mae defnyddio ffôn symudol wrth y llyw yn beryglus ac anghyfrifol. Arhoswch nes eich bod wedi parcio mewn lle diogel cyn ceisio defnyddio’ch ffôn.