Cyfleoedd Amdani

Ymunwch â Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Sir Caerfyrddin

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaethau cyffrous gan ddechrau ym mis Medi 2025.

Fel prentis, cewch eich mentora gan ein staff profiadol tra byddwch hefyd yn treulio cyfran o'ch amser cyflogedig yn mynychu hyfforddiant gyda'ch darparwr hyfforddiant i'ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cymhwyster. Mae ein rhaglen brentisiaeth Amdani ar gyfer unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn sy'n dechrau yn eu gyrfa neu'n chwilio am newid gyrfa, nid oes terfyn oedran uchaf, ond efallai y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.

Ymunwch â ni i gael effaith gadarnhaol mewn awdurdod lleol blaengar sydd wedi ymroi i ragoriaeth a gwelliant parhaus.

Darganfyddwch isod beth sydd gennym ar gael i gyd-fynd â'ch sgiliau a'ch profiad:

 

 

Prentis Dysgu Digidol (Lefel 3)

Mae ein Tîm Dysgu a Datblygu yn chwilio am rywun sy'n greadigol, sydd â diddordeb mewn technoleg ac yn chwilfrydig am sut mae pobl yn dysgu ar-lein. Dyma'ch cyfle i archwilio sut y gall offer digidol gefnogi dysgu a datblygu ar draws y Cyngor. 

Fel siaradwr Cymraeg sydd â llygad craff am fanylder ac yn mwynhau helpu eraill, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth greu cynnwys dwyieithog diddorol a chefnogi staff trwy eu teithiau dysgu. Byddwch yn ennill profiad ymarferol gyda llwyfannau dysgu, creu cynnwys digidol, a'r tueddiadau diweddaraf mewn dysgu ar-lein - a hynny wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut rydym yn tyfu ac yn datblygu fel tîm

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Lefel Uwch – Adnoddau Dynol (Lefel 5)

Mae ymuno â'r tîm Adnoddau Dynol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin fel prentis yn cynnig cyfle unigryw i gael profiad gwerthfawr mewn amgylchedd dynamig a chefnogol. Fel prentis lefel uwch, byddwch yn cael eich trwytho yng ngweithrediadau'r adran Adnoddau Dynol o ddydd i ddydd. Bydd y profiad ymarferol hwn yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o arferion, polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ragori yn y maes. Yn ogystal, bydd gweithio mewn llywodraeth leol yn eich galluogi i gyfrannu at y gymuned, gan gael effaith gadarnhaol ar fywydau trigolion a gweithwyr.

Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn prentisiaid, gan gynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu i'ch helpu i gyrraedd eich potensial llawn. Bydd gennych fynediad at weithdai, seminarau a chyrsiau amrywiol sydd wedi'u cynllunio i wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth broffesiynol. Trwy ymuno â'r tîm Adnoddau Dynol, byddwch nid yn unig yn cael profiad ymarferol ond hefyd yn datblygu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes adnoddau dynol.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Polisi  (Lefel 3)

Mae ein tîm Polisi a Chynnwys yn gyffrous i gynnig cyfle am leoliad i unigolion sydd â diddordeb mewn cael effaith gadarnhaol ym mywydau preswylwyr. Mae'r lleoliad hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n awyddus i ddysgu sut mae ein tîm yn cefnogi preswylwyr i godi cwynion am wasanaethau'r cyngor ac am ein meysydd polisi allweddol. 

Os oes gennych chi angerdd dros gefnogi preswylwyr neu eisiau cael profiad gwerthfawr yn y maes hwn, mae'r lleoliad hwn yn berffaith i chi. Byddwch yn gweithio gyda'n tîm profiadol a chydweithwyr ar draws y cyngor i fynd i'r afael â chwynion a'u datrys, gan sicrhau ein bod yn gwireddu polisïau allweddol.

Yn ogystal, mae’r rôl hon yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio’ch sgiliau Cymraeg yn ddyddiol, gan helpu i feithrin eich hyder a chyfathrebu’n effeithiol â phreswylwyr. Ymunwch â ni i'n helpu i wella'r ffordd rydym yn gweithio ac i wneud yn siŵr bod llais pob preswylydd yn cael ei glywed a'i barchu.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Lefel Uwch (Lefel 4) - Cyfieithydd

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i ymuno â'n Tîm. Mae hwn yn wasanaeth prysur sy'n delio â nifer sylweddol o geisiadau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd bob blwyddyn, a hynny gan ddefnyddwyr gwasanaeth mewnol ac allanol. Drwy weithio yn y tîm byddech chi’n dysgu am Safonau statudol y Gymraeg sy'n berthnasol i'r Awdurdod a sut rydyn ni’n cefnogi hyn.  

Testun cyffro i'n Tîm Cyfieithu yw gallu cynnig cyfle prentisiaeth lefel 4 i’r rheiny sydd â diddordeb mewn dysgu sut rydyn ni’n darparu ac yn cefnogi gwasanaeth cyfieithu arbenigol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg.  

Mae'r cyfle hwn ar gael i bobl 18 oed neu hŷn sy'n awyddus i ennill y cymhwyster prentisiaeth Ymarfer Cyfieithu (Cymraeg).  Byddwch chi’n cydweithio â'n staff profiadol a fydd yn eich mentora ac yn eich cefnogi i ddarparu gwasanaeth cyfieithu effeithiol ac effeithlon. 

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Datblygu Economaidd (Lefel 2)

Mae'r Tîm Datblygu Economaidd yn helpu i wella ardaloedd lleol a chefnogi busnesau ledled Sir Gaerfyrddin. Rydyn ni'n gweithio ar rai prosiectau cyffrous, y gallwch eu gweld yma: Prif Drefi Sir Gaerfyrddin - Cyngor Sir Caerfyrddin. Ein nod yw troi syniadau da yn gymorth go iawn sy'n helpu busnesau, pobl a chymunedau i dyfu. Rydym yn rhedeg ein prosiectau ein hunain ac yn cefnogi eraill hefyd, gan ganolbwyntio ar ganol trefi, creu lleoedd, a chyfleoedd cyllido Cyllid - Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae ein tîm Datblygu Economaidd yn chwilio am rywun sy'n awyddus i ddysgu, yn ddibynadwy, ac yn frwdfrydig. Os ydych chi'n mwynhau mynd i'r afael â heriau newydd, datrys problemau, a gweithio gyda phobl, mae hwn yn gyfle gwych i gael profiad go iawn mewn tîm prysur, cefnogol. Byddwch yn dysgu sut rydyn ni'n helpu busnesau, unigolion a chymunedau trwy droi syniadau yn gamau gyda'r gefnogaeth gywir. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwelliannau i ganol trefi, siarad â'r cyhoedd, gweithio gyda busnesau lleol, a helpu i ddatblygu prosiectau newydd.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Gwasanaeth Cwsmeriaid (Lefel 2)

Ydych chi'n gyfeillgar, yn drefnus ac yn angerddol am helpu eraill? Ymunwch â'n tîm fel Prentis Cynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmeriaid a chymryd y cam cyntaf tuag at yrfa gwerth chweil ym maes gwasanaeth cwsmeriaid. Fel prentis, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda staff profiadol i groesawu a chefnogi cwsmeriaid, ymdrin ag ymholiadau, a darparu gwasanaeth blaen tŷ rhagorol. Byddwch chi'n ennill profiad ymarferol gan ddefnyddio systemau archebu, ymateb i ystod eang o anghenion cwsmeriaid, a sicrhau profiad hwylus, cadarnhaol i bawb sy'n ymweld â'n cyfleusterau.

Byddwch chi wrth ganol ein canolfannau, gan helpu i sicrhau eu bod yn gweithredu'n hwylus tra'n datblygu sgiliau cryf o ran cyfathrebu a datrys problemau. Bydd hyfforddiant llawn a chymorth yn cael eu darparu wrth i chi weithio tuag at gymhwyster gwasanaeth cwsmeriaid cydnabyddedig - y cyfan sydd ei angen arnoch yw agwedd gadarnhaol a chyfeillgar a pharodrwydd i ddysgu. Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg i gefnogi gwasanaeth dwyieithog a chynhwysol, gan ein helpu i gysylltu â hyd yn oed fwy o bobl a hyrwyddo llesiant ar draws y sir.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Cymorth Busnes (Lefel 2)

Ymunwch â'n Tîm Cymorth Busnes a Chomisiynu a chymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa sy’n rhoi boddhad ym maes gweinyddiaeth. Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i unigolyn cryf ei gymhelliant sydd am ddatblygu fel Cynorthwyydd Cymorth Busnes.

Fel prentis, byddwch yn cael profiad ymarferol yn darparu cymorth gweinyddol hanfodol ar draws yr Adran Cymunedau. O reoli ymholiadau a chreu adroddiadau i gefnogi prosiectau'r tîm, byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn amgylchedd proffesiynol a chefnogol gan gwblhau cymhwyster perthnasol ar yr un pryd.

Byddwch yn rhan o dîm cydweithredol, dysgwch gan gydweithwyr profiadol, ac ewch ati i greu sylfaen gref ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Gwnewch gais nawr a dechreuwch wneud gwahaniaeth i fywydau trigolion Sir Gaerfyrddin.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Data a Perfformiad (Lefel 3)

Mae ein Tîm Data a Pherfformiad yn llawn cyffro i gynnig cyfle Prentisiaeth i berson sydd ag angerdd am ddata ac yn gwneud y defnydd gorau ohono. Os ydych chi'n berson chwilfrydig sy'n dda o ran datrys problemau, gallai hwn fod yn gyfle perffaith i chi. 

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm medrus a gwybodus a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch galluoedd dadansoddol ar draws ystod o systemau mewnol sy'n cefnogi gweithgarwch y Cyngor. Byddwch yn cael cyfle i weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, gan gael mewnwelediad unigryw o'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio, gan chwarae rhan annatod wrth gefnogi adrannau i gyflawni eu nodau a monitro eu cynnydd. 

Ymunwch â ni a defnyddiwch eich sgiliau i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr Sir Gaerfyrddin!

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis (Cyllid) (Lefel 2)

Mae ein Tîm Cyllid yn chwilio am rywun sy'n frwdfrydig, yn awyddus i ddysgu a thyfu, ac sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes cyllid.

Gyda llygad craff am fanylion a sgiliau dadansoddi da, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli arian cyhoeddus a chefnogi gwasanaethau cymunedol, a hynny i gyd wrth gael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chymwysterau gwerthfawr, mewn amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Lefel Uwch - Peiriannydd Meddalwedd (Lefel 4)

Ydych chi'n angerddol dros dechnoleg ac yn awyddus i ddechrau eich gyrfa ym maes peirianneg meddalwedd? Ymunwch â'n Tîm Gwasanaethau Digidol fel Prentis Peiriannydd Meddalwedd a helpu i lunio dyfodol gwasanaethau digidol yn Sir Gaerfyrddin. Byddwch yn gweithio ar brosiectau trawsnewid digidol cyffrous sy'n gwella bywydau ein preswylwyr, ein busnesau a'n cymunedau - gan ennill profiad ymarferol a dysgu sgiliau arloesol. 

P'un a ydych chi'n angerddol dros godio, datrys problemau, neu os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn drwy dechnoleg, dyma'ch cyfle i dyfu mewn tîm cefnogol, ennill cymhwyster cydnabyddedig, ac adeiladu gyrfa ystyrlon ym maes datblygu meddalwedd. 

Barod i ddechrau eith taith ddigidol? Byddem ni'n dwlu clywed gennych! 

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Lefel Uwch – Datblygu Systemau a Pherfformiad (Lefel 4) 

Mae dod yn Brentis Lefel Uwch – Datblygu Systemau a Pherfformiad o fewn y tîm Adnoddau Dynol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu sgiliau arbenigol o ran datblygu systemau a rheoli perfformiad. Bydd eich gwaith yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli data Adnoddau Dynol i gefnogi prosesau o ran gwneud penderfyniadau a gwella effeithlonrwydd cyffredinol.

Bydd y profiad ymarferol hwn yn rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o sut y gall mewnwelediadau sy'n seiliedig ar ddata wella arferion, polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol. Yn ogystal, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer a meddalwedd amrywiol i reoli a chyfleu data, gan roi sgiliau technegol gwerthfawr i chi. Trwy ymuno â'r tîm Adnoddau Dynol, byddwch nid yn unig yn cael profiad ymarferol ond hefyd yn datblygu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes datblygu systemau.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Cymorth Data Llifogydd ac Arfordirol (Level 3)

Mae'n bleser gan ein tîm Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir gynnig prentisiaeth i ddarparu Cymorth Data i'r tîm. Os oes gennych ddiddordeb mewn Daearyddiaeth a'r Amgylchedd, a'ch bod yn mwynhau'r awyr agored a defnyddio data i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o helpu i ddiogelu ein cymunedau, yna dyma'r cyfle perffaith. 

Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi'r tîm ehangach o ran rheoli, cofnodi a chyflwyno data. Bydd hyn yn cynnwys cyfrannu at adroddiadau, helpu i reoli data a chronfeydd data a chyfle i wella'r systemau presennol. Bydd hon yn rôl amrywiol a byddwch hefyd yn cael cyfle i gynorthwyo'r tîm gyda chyfrifoldebau eraill fel ymateb i achosion o lifogydd a chasglu data yn y maes. 

P'un a ydych chi'n angerddol dros systemau data a datrys problemau, neu eich bod wrth eich bodd â'r syniad o ddefnyddio data i ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau, dyma'ch cyfle i dyfu mewn tîm cefnogol, i ennill cymhwyster cydnabyddedig, ac i ddatblygu gyrfa ystyrlon. A hynny wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau!

Gwnewch Gais Nawr

 

 

Prentis Arlwyo (Lefel 2)

Ydych chi'n angerddol dros fwyd, yn awyddus i ddysgu, ac yn chwilio am ddechrau cyffrous i'ch gyfra ym maes arlwyo? Ymunwch â'n tîm croesawgar yn Actif fel Prentis Cynorthwyydd Arlwyo ac ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd cyflym sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Fel prentis, byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr â'n tîm arlwyo profiadol i baratoi a gweini bwyd, cynnal safonau hylendid uchel, a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Byddwch chi'n cael eich hyfforddi ym mhob agwedd ar weithrediadau arlwyo, o waith paratoi yn y gegin i wasanaeth blaen tŷ, gan chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod ein gwasanaethau arlwyo'n gweithredu'n hwylus o ddydd i ddydd.

Byddwn ni'n darparu hyfforddiant llawn a chymorth wrth i chi weithio tuag at gymhwyster arlwyo cydnabyddedig - y cyfan sydd ei angen arnoch yw brwdfrydedd, parodrwydd i ddysgu, ac agwedd gadarnhaol. Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg i gefnogi gwasanaeth dwyieithog a chynhwysol, gan ein helpu i gyrraedd mwy o bobl a hyrwyddo hamdden a llesiant ar draws y sir.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Fflyd (Gweithdy)  (Lefel 2)

Mae ein tîm Fflyd yn gyffrous i gynnig cyfle i unigolion sydd â diddordeb mewn dod yn brentis yng ngweithdy'r fflyd.
Rydym yn chwilio am unigolion talentog a fydd, o gael y cyfle, yn dod yn weithwyr proffesiynol yn y dyfodol.

Rydym yn chwilio am ddau brentis i ymuno â'n hadran fflyd yng ngweithdai Trostre a Chillefwr ar gontract dwy flynedd.

Mae'r swydd yn cynnwys ennill NVQ lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm tra'n gweithio mewn amgylchedd gweithdy cerbydau cyffrous sy'n esblygu tra'n cael eu mentora gan ein technegwyr cymwys profiadol. Bydd y dysgu theori yn digwydd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro am ddiwrnod yr wythnos.

Mae pob rôl yn cynnwys cyfuniad o ddysgu trwy gael profiad ymarferol a chyfle i astudio a chael cymhwyster proffesiynol. Yn ogystal, bydd datblygiad proffesiynol pellach drwy gyrsiau, seminarau a gweithdai mewnol ac allanol, ynghyd â chael eich mentora gan uwch-reolwyr.

Rydym yn benodol yn croesawu ymgeiswyr benywaidd a'r rhai o leiafrifoedd ethnig, gan eu bod ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn y maes gwasanaeth hwn. Yn ogystal, mae'r rôl hon yn gyfle gwych i ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg bob dydd, gan helpu i feithrin eich hyder. 

Gwnewch Gais Nawr

 

Llyfrgelloedd - Prentis Makerspace (Lefel 3)

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn chwilio am rywun sy'n greadigol, yn frwdfrydig ac yn flaengar gyda gwir ddiddordeb mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.

Byddwch yn cael cyfle i weithio gyda phobl o bob oedran, yn enwedig disgyblion ysgol. Fel prentis, byddwch yn cefnogi ac yn hyrwyddo ein gwasanaethau Makerspace. Hwb creadigol, bywiog lle gall y cyhoedd edrych ar dechnoleg arloesol fel argraffwyr 3D, pecynnau codio, a realiti rhithwir. Byddwch yn helpu i gyflwyno gweithdai ymarferol a sesiynau cymorth i grwpiau ysgolion a'r cyhoedd ehangach, gan annog creadigrwydd, sgiliau digidol, a dysgu gydol oes. Byddwch yn cael cyfle i archwilio ac ennill profiad yn y Llyfrgell Gyfeirio a'r adran TG, gan gefnogi ymholiadau ynghylch gwybodaeth ac ymchwil.

Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o dîm llyfrgell deinamig sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gymuned.

Gwnewch Gais Nawr

 

Prentis Cyfleusterau Hamdden (Lefel 2)

Ydych chi'n frwdfrydig, yn awyddus i ddysgu, ac yn angerddol am helpu eraill? Ymunwch â'n tîm cyfeillgar yn Actif fel  Prentis Cyfleusterau Hamdden a dechrau eich taith yn y diwydiant hamdden. Fel prentis, byddwch chi'n cefnogi gweithrediadau dyddiol ein cyfleusterau wrth ennill sgiliau hanfodol mewn gwasanaeth cwsmeriaid, iechyd a diogelwch, a gweithrediadau hamdden. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol, byddwch chi'n helpu i sicrhau amgylchedd diogel, glân a chroesawgar i'n holl gwsmeriaid. Byddwch chi hefyd yn ymwneud â'r gwaith o oruchwylio sesiynau pwll, gosod offer, cefnogi rhaglenni iau, a dysgu beth sydd ei angen i ddarparu profiad hamdden o ansawdd uchel.

Mae sgiliau nofio da yn hanfodol, gan fod y rôl yn cynnwys gweithio yn y pwll ac o'i amgylch, gan gynnwys cefnogi achubwyr bywyd. Byddwn ni'n darparu hyfforddiant llawn ac yn eich helpu i weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig - y cyfan y bydd angen arnoch yw egni, ymrwymiad ac agwedd gadarnhaol. Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg i gefnogi gwasanaeth dwyieithog a chynhwysol, gan ein helpu i gyrraedd mwy o bobl a hyrwyddo llesiant ar draws y sir.

Gwnewch Gais Nawr

 

Mae ein rolau prentisiaethau yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan o dan swyddi a gyrfaoedd.

Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif er mwyn gwneud cais ar-lein, felly gwnewch yn siŵr eich bod gennych ddigon o amser. 

Bydd hyn yn caniatáu i chi:

  • storio eich manylion
  • cadw eich ceisiadau, mynd yn ôl atynt a pharhau â nhw
  • monitro cynnydd unrhyw gais rydych wedi ei gyflwyno 
  • cofrestru i gael gwybod am swyddi

Dysgwch am ein proses recriwtio

Diwrnod Recriwtio:

Os ydych chi'n llwyddo i gyrraedd y rhestr fer, byddwch chi'n cael eich gwahodd i un o'n diwrnodau recriwtio. Byddwch chi'n gweld y dyddiad ar yr hysbyseb ar gyfer pob un o'r swyddi felly gwnewch nodyn o'r dyddiad.

Yn ystod y diwrnod recriwtio, byddwn ni'n ceisio darganfod mwy amdanoch chi, eich sgiliau a'ch profiadau. 

Os oes angen i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol er mwyn i chi ddod i'r diwrnod recriwtio fel y gallwn eich gweld chi ar eich gorau, rhowch wybod i ni a byddwn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cysylltu â chi i wneud addasiadau cyn y diwrnod. 

 

Beth i'w ddisgwyl yn ystod y diwrnod recriwtio ar-lein:

Byddwch chi'n cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd ar-lein sydd wedi'i gynllunio i archwilio sut rydych chi'n gweithio fel rhan o dîm ac yn gwneud penderfyniadau. 

Peidiwch â phoeni am fynd ar-lein, byddwn ni'n gallu eich cefnogi chi.

 

Beth ddylech ddod ag ef gyda chi:

Eich hun a'ch atebion gonest!

Rydyn ni am i hyn fod yn brofiad cadarnhaol - yn gyfle gwych i chi ddangos pwy ydych chi a gweld os mai Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r dewis iawn i chi.

Mehefin 2025: Ceisiadau yn agor

6 Gorffennaf 2025: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

23-25 Gorffennaf 2025: Diwrnodau Recriwtio

7 neu 8 Awst 2025: Cyfweliad gyda'r adran

Medi 2025: Dechrau cyflogaeth gyda Chyngor Sir Caerfyrddin

Rydym am i chi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac i'r profiad fod yn un gwerth chweil. Mae ein gweithwyr wrth wraidd y gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r gymuned ac maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.


Buddiannau gweithwyr

Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.


Gweithio i ni

Gwybodaeth am sut beth yw gweithio gyda ni a'r ffordd o fyw y gallwch ei mwynhau yn Sir Gaerfyrddin.


Yr Iaith Gymraeg

Fel cyflogwr, rydyn ni'n darparu cyfleoedd amrywiol i staff ddysgu neu wella eu Cymraeg. Byddwn ni'n gweithio'n galed i'ch cefnogi i gyrraedd y lefel iaith ofynnol. 


Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd

Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni ac yn diffinio pwy ydym ni fel sefydliad ac fel cyflogwr.