Prif Swyddog Ariannol a Gweithrediadau
Cyfle Arweinyddiaeth Strategol Prin
Mae dwy o brif ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin — Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth ac Ysgol Dyffryn Aman — yn chwilio am unigolyn eithriadol i ymgymryd â rôl newydd ar y cyd sef Prif Swyddog Ariannol a Gweithrediadau.
Gyda'i gilydd, mae ein hysgolion yn addysgu dros 2,800 o ddisgyblion ac yn cael eu gyrru gan uchelgais a rennir: i ddarparu canlyniadau addysgol rhagorol wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy, arloesol i'n cymunedau.
Mae hwn yn gyfle unigryw i lunio rôl arweinyddiaeth uwch ar draws dau sefydliad uchelgeisiol, cydweithredol ar adeg dyngedfennol ym maes addysg.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am arweinydd strategol, sy'n cael ei yrru gan werthoedd sy'n gallu gweithredu'n hyderus gan wneud y mwyaf o weithrediadau busnes tra'n cadw ffocws clir ar wella canlyniadau i bobl ifanc.
Byddwch yn:
- Meddu ar brofiad o arwain cyllid a gweithrediadau mewn sefydliadau cymhleth
- Medrus mewn rheoli newid, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynllunio strategol
- Dangos y gallu i gydbwyso effeithlonrwydd â blaenoriaethau addysgol
- Cyfathrebwr rhagorol gyda'r gallu i adeiladu ymddiriedaeth ar draws sefydliadau
- Cael eich ysgogi trwy wneud effaith ystyrlon, hirdymor
Annwyl Ymgeisydd,
Diolch am ddangos diddordeb yn swydd y Prif Swyddog Ariannol a Gweithrediadau ar draws Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth ac Ysgol Dyffryn Aman.
Mae hwn yn gyfle unigryw i ymuno â dwy ysgol uchelgeisiol a blaengar ar adeg hollbwysig ym maes addysg. Fel y ddwy ysgol uwchradd fwyaf yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn rhannu ymrwymiad cryf i sicrhau'r deilliannau gorau i'n pobl ifanc yn ogystal ag ymateb yn greadigol ac yn strategol i'r heriau sy'n wynebu ysgolion heddiw.
Mae'r ddwy ysgol yn falch o'u hymdeimlad cryf o gymuned, eu gwerthoedd cynhwysol a'u dyheadau uchel i ddisgyblion a staff fel ei gilydd. Rydym yr un mor falch o'r berthynas gydweithredol rhwng ein hysgolion. Mae'r swydd newydd hon yn adlewyrchu ein cred y gallwn ni, drwy weithio gyda'n gilydd, gryfhau rhagoriaeth weithredol, manteisio i'r eithaf ar adnoddau a datblygu atebion arloesol sy'n diogelu ac yn gwella darpariaeth addysgol mewn tirwedd ariannol gynyddol heriol.
Bydd y Prif Swyddog Ariannol a Gweithrediadau yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio systemau a gwasanaethau cynaliadwy sy'n galluogi ein hysgolion i ffynnu. Nid rôl weithredol yn unig yw hon; mae'n swydd arweinyddiaeth strategol a fydd yn helpu'r ddwy ysgol i barhau i ddatblygu, arloesi a darparu cyfleoedd rhagorol i bobl ifanc ar draws ein cymunedau.
Rydym yn chwilio am arweinydd sy'n cael ei yrru gan werthoedd, sy'n fedrus iawn ac sy'n cael ei gyffroi gan y cyfle i weithio ar draws dau sefydliad dynamig. Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â dau dîm arwain profiadol ac ymroddedig sy'n credu'n gryf mewn cydweithio, ymddiriedaeth broffesiynol a gwelliant parhaus.
Yn bwysicaf oll, byddwch yn ymuno â dwy ysgol sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth y maent yn ei wneud - ysgolion sy'n poeni'n fawr am eu disgyblion, eu staff a'u cymunedau ehangach, ac sy'n benderfynol o barhau i fod yn flaengar ac yn wydn ac o edrych tuag allan yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn gobeithio, ar ôl darllen mwy am ein hysgolion, y byddwch yn awyddus i wneud cais a bod yn rhan o'r bartneriaeth gyffrous hon.
Yn gywir,
Pennaeth
Ysgol Dyffryn Aman
Pennaeth
Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
Croeso
Diolch am ddangos diddordeb yn swydd y Prif Swyddog Ariannol a Gweithrediadau ar draws Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth ac Ysgol Dyffryn Aman.
Mae hon yn uwch rôl arweinyddiaeth unigryw ar draws dwy ysgol uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan weithio mewn partneriaeth i sicrhau'r deilliannau gorau i bobl ifanc.
Rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol i ddarparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth weithredol ar draws y ddwy ysgol. Mae'r rôl yn ganolog wrth sicrhau bod cyllid, ystadau, TG, Adnoddau Dynol a gwasanaethau cymorth ehangach yn gweithredu’n effeithlon ac yn effeithiol a'u bod yn cyd-fynd yn llwyr â blaenoriaethau addysgol.
Byddwch yn:
- Arwain y gwaith cynllunio ariannol, perfformiad a rheoli adnoddau i sicrhau cynaliadwyedd
- Goruchwylio seilwaith, TG a chydymffurfiaeth, gan gefnogi amgylchedd dysgu o ansawdd uchel
- Darparu cyngor strategol dibynadwy i Benaethiaid a Llywodraethwyr
- Hyrwyddo effeithlonrwydd, arloesi a gwerth am arian ar draws y ddau sefydliad
- Arwain a datblygu timau cymorth uchel eu perfformiad, gan feithrin diwylliant “un tîm” cryf
Fel rhan o'r ddau Dîm Uwch-arweinwyr, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol ein hysgolion—gan sicrhau bod arweinyddiaeth weithredol gref yn sail i addysgu, dysgu a lles rhagorol.
Mae hwn yn gyfnod pwysig a chyffrous i'n hysgolion. Mae'r swydd newydd hon yn adlewyrchu ein huchelgais nid yn unig i gynnal safonau uchel, ond i gryfhau ein partneriaeth a sicrhau llwyddiant hirdymor a chynaliadwy.
Os ydych chi'n cael eich ysgogi drwy wneud gwahaniaeth ystyrlon ar lefel eang, gweithio ar draws sefydliadau, a sicrhau bod arweinyddiaeth weithredol gref yn galluogi addysg ragorol, byddem yn croesawu eich cais.
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Ysgol Dyffryn Aman
Cadeirydd y Llywodraethwyr
Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
Mae Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol gyfun ddwyieithog lwyddiannus fawr i blant 11–18 oed yn Rhydaman. Mae'n gwasanaethu'r dref ei hun a dalgylch gwledig eang sy'n ymestyn ar draws Dyffryn Aman a'r pentrefi cyfagos. Ar hyn o bryd mae tua 1,500 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, ac mae sawl grŵp blwyddyn yn orlawn.
Er gwaethaf ei maint, mae'r ysgol yn cael ei chydnabod gan lawer am ei ethos cynnes, cynhwysol a chymunedol. Perthnasoedd sydd wrth wraidd bywyd ysgol, ochr yn ochr ag ymrwymiad cryf i ddisgwyliadau uchel, lles a llwyddiant academaidd i bob dysgwr. Mae cymeriad dwyieithog yr ysgol yn rhan ganolog o'i hunaniaeth; mae tua hanner y disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae llawer yn dod o gartrefi Cymraeg.
Mae gan Ysgol Dyffryn Aman enw da am ofal bugeiliol, cynhwysiant a lles dysgwyr, ynghyd â ffocws clir ar godi safonau a sicrhau deiliannau rhagorol. Canmolwyd yr ysgol gan Estyn am ei lles a'i hagweddau at ddysgu, gan ddangos cryfder ei diwylliant a'i dull gweithredu sy'n cael ei yrru gan werthoedd.
Fel ysgol, rydym yn uchelgeisiol ac yn flaengar. Rydym yn croesawu arloesi, cydweithio a dulliau newydd sy'n gwella profiadau dysgu ac effeithiolrwydd sefydliadol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cynaliadwyedd gweithredol ac ariannol yn cefnogi cyfleoedd i bobl ifanc, yn hytrach na chyfyngu arnynt.
Mae'r ysgol yn cael ei harwain gan dîm arwain cydweithredol iawn sy'n rhoi gwerth ar dwf proffesiynol, creadigrwydd a gweithio mewn partneriaeth. Rydym yn falch o'r perthnasoedd cadarnhaol yr ydym wedi'u meithrin â theuluoedd, sefydliadau cymunedol ac ysgolion eraill ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yn ysgol gyfun Saesneg i blant 11–18 oed yng Nghaerfyrddin. Mae tua 1,300 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys chweched dosbarth ffyniannus a'r ddarpariaeth arbenigol uchel ei pharch, sef Canolfan Elfed.
Mae'r ysgol yn cyfuno traddodiad academaidd cryf ag ethos hynod gynhwysol. Gwerthoedd craidd Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, sef Gofalu, Dysgu ac Arwain, sydd wrth wraidd popeth yn yr ysgol ac mae ffocws clir ar sicrhau bod pob disgybl yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei herio a'i ysbrydoli i gyflawni ei orau.
Mae Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yn falch o'i chwricwlwm eang, ei systemau bugeiliol cryf a'r cyfleoedd helaeth y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae gan yr ysgol enw da ers tro am ragoriaeth mewn chwaraeon, celfyddydau perfformio, arweinyddiaeth disgyblion ac ymgysylltu cymunedol, ochr yn ochr â hanes cryf o symud ymlaen i addysg uwch a chyflogaeth.
Fel un o ysgolion mwyaf y sir, mae Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yn cydnabod y cyfleoedd a'r pwysau sy'n wynebu addysg fodern. Mae'r ysgol wedi ymrwymo i groesawu arloesi, datblygu digidol a chydweithio i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn gynaliadwy wrth barhau i wella deilliannau addysgol.
Mae'r ysgol yn elwa ar gyfleusterau modern a thîm o staff medrus ac ymroddedig iawn. Mae arweinwyr a llywodraethwyr wedi ymrwymo i greu diwylliant lle mae gwelliant parhaus, lles a rhagoriaeth weithredol yn gweithio law yn llaw.
Ynghyd ag Ysgol Dyffryn Aman, mae Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yn ystyried y bartneriaeth hon fel cyfle cyffrous i ddatblygu ymagweddau mwy clyfar a mwy cynaliadwy at arweinyddiaeth a gweithrediadau ysgolion — gan sicrhau bod y ddwy ysgol yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn wydn i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a'u bod yn edrych at y dyfodol.
O ran lleoliad, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig popeth. Mae mewn lleoliad delfrydol ar hyd coridor yr M4, felly gallwch deithio i brif ddinasoedd o fewn ychydig oriau, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â Bryste, Birmingham a Llundain ymhellach i'r dwyrain - ac i'r gorllewin mae gennym gysylltiadau cystal ag Iwerddon drwy byrth Sir Benfro.
Rydym yn falch o'n harfordir hardd, o Foryd Byrri â golygfeydd dros Benrhyn Gŵyr, ar draws milltiroedd o dywod euraid a thraethau baner las, hyd at Bentywyn yn y gorllewin, sy'n enwog am ei dirwedd wastad ar gyfer rasio; a'n cefn gwlad o fryniau a phantiau sy'n ymestyn at y ffin â Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn ogystal â chyrion gorllewinol ardal hyfryd Bannau Brycheiniog.
Fel un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru, rydym wedi arwain rhaglen buddsoddi a datblygu uchelgeisiol sydd wedi darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i'n trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr. Mae'r rhain yn cynnwys stadia chwaraeon modern a chyrsiau golff gwych, Stadiwm Parc y Scarlets, a'r Gylchffordd Gaeedig Genedlaethol ym Mhen-bre ac mae'r atyniadau diwylliannol yn cynnwys theatrau a safleoedd hamdden, megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cartref Dylan Thomas, Marina Porth Tywyn, Parc Arfordirol y Mileniwm a'r cyfleuster Denu Twristiaid newydd ar lan y môr ym Mhentywyn. Felly nid oes ryfedd bod economi twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn ffynnu, gan ddod â mwy na £434 miliwn i'r sir y llynedd a chynyddu bob blwyddyn.
Mae Sir Gaerfyrddin yn sir wirioneddol ddwyieithog ac mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn y sir na'r un sir arall yng Nghymru (tua 40% o'n 187,900 o drigolion, yn ôl Cyfrifiad 2021). Mae'r iaith yn rhan bwysig o'n hanes a'n diwylliant, a dyna pam rydym wedi ymrwymo'n gadarn i helpu pobl i fyw, gweithio a defnyddio gwasanaethau yn eu dewis iaith, gan ddefnyddio ein Strategaeth Sgiliau Iaith i'n helpu i gyflawni Safonau'r Gymraeg. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cefnogol a hyblyg i ganiatáu i'n staff ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau. Os bydd angen, byddwn yn gweithio'n galed i'ch ysgogi a'ch ysbrydoli o ran eich sgiliau Cymraeg ac yn eich helpu i gyrraedd y lefel sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon. Gallwch ddarllen rhagor yma.
Rydym am ichi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac iddo roi boddhad mawr ichi. Mae ein gweithwyr wrth wraidd y gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r gymuned ac maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol. Gweld beth rydym yn ei gynnig.
Dyma gyfle prin a chyffrous i lunio uwch rôl arweinyddiaeth weithredol ar draws dwy o'r ysgolion uwchradd mwyaf yn Sir Gaerfyrddin. Gyda'i gilydd, mae Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth ac Ysgol Dyffryn Aman yn rheoli cyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd, ystadau helaeth, strwythurau staffio mawr a systemau gweithredol cymhleth sy'n cefnogi mwy na 2,800 o ddisgyblion ar draws dwy gymuned ysgol wahanol.
Rydym yn chwilio am arweinydd strategol sy'n canolbwyntio ar atebion ac sy'n gallu gweithio'n hyderus ar lefel eang heb byth golli golwg ar bwrpas craidd y ddwy ysgol: sicrhau'r profiadau a'r deilliannau addysgol gorau i bobl ifanc.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydnabod y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig â gweithio ar draws dau sefydliad sefydledig a hynod lwyddiannus. Mae angen rhywun sy'n gallu meddwl yn greadigol, arwain yn sensitif a meithrin ymddiriedaeth ar draws y ddwy ysgol, wrth sicrhau bod systemau gweithredol yn effeithlon ac yn gynaliadwy a'u bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol.
Un o brif elfennau'r rôl fydd datblygu a chryfhau dull rhannu gwasanaethau ar draws y ddwy ysgol. Credwn fod cyfleoedd sylweddol i gysoni systemau, polisïau a phrosesau gweithredol mewn ffyrdd sy'n gwella cysondeb, gwydnwch a gwerth am arian, wrth barhau i barchu hunaniaeth a diwylliant unigol pob ysgol.
Felly, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos y gallu i wneud y canlynol:
- Arwain y gwaith cynllunio ariannol strategol a rheoli adnoddau ar draws sefydliadau mawr a chymhleth
- Nodi a darparu cyfleoedd ar gyfer arbedion maint a gwell effeithlonrwydd gweithredol
- Datblygu systemau a phrosesau cyson sy'n gwella effeithiolrwydd ar draws y ddwy ysgol
- Rheoli cymhlethdod gweithredol ar draws dau safle, dau dîm arwain a diwylliannau ysgol gwahanol
- Ymateb yn rhagweithiol ac yn greadigol i bwysau ariannol cynyddol a chostau gweithredol cynyddol
- Cydbwyso effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ag ymrwymiad diwyro i ansawdd addysgol a phrofiad disgyblion
- Arwain newid sefydliadol mewn modd clir, proffesiynol a sensitif
- Dwyn ynghyd systemau, timau a ffyrdd o weithio i greu strwythur gweithredol cryfach a mwy cydweithredol
- Sicrhau bod cydymffurfiaeth, trefniadau llywodraethu a gwaith rheoli risg yn parhau i fod yn gadarn mewn amgylchedd rheoleiddio cynyddol gymhleth
- Meithrin perthnasoedd proffesiynol cryf â staff, llywodraethwyr, asiantaethau allanol a rhanddeiliaid ehangach
- Defnyddio data, technoleg ac arloesi i gefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau strategol a gwelliant parhaus
- Datblygu diwylliant o atebolrwydd, cydweithio a safonau proffesiynol uchel ar draws gwasanaethau cymorth
Uwchlaw popeth, rydym yn chwilio am rywun sy'n cael ei yrru gan werthoedd, sy'n cadw'i ben dan bwysau ac sy'n cael ei ysgogi drwy wneud gwahaniaeth ystyrlon. Mae'r rôl hon yn gyfle i helpu i lunio model gweithrediadau ysgolion sy'n fodern, yn gydweithredol ac yn gynaliadwy - un sy'n galluogi'r ddwy ysgol i barhau i ffynnu mewn tirwedd addysgol sy'n newid yn gyflym.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
James Durbridge, Pennaeth, Dyffryn Amman
E-bost: james.durbridge@dyffrynaman.org
Rhif Ffôn: 01269 592441
Dyddiad Cau: 20 Medi
Llunio Rhestr Hir: 22 Medi
Cyfnod Gweithgaredd Asesu o Bell: 24-27 Medi
Llunio Rhestr Fer: 30 Medi
Y Ganolfan Asesu: 12 Hydref


