Cymorth a chyngor ar gael mewn ardaloedd gwledig
Diweddarwyd y dudalen ar: 20/01/2026
Mae cymorth, gwybodaeth a chyngor ynghylch materion tai ar gael mewn cymunedau gwledig ledled Sir Gaerfyrddin.
Ar hyn o bryd rydym yn symud i system dai newydd i wella ein gwasanaethau i denantiaid. Mae'r newidiadau hyn o ganlyniad uniongyrchol i wrando ar eich adborth ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wneud gwelliannau yn seiliedig ar yr hyn rydych chi wedi'i ddweud wrthon ni sydd fwyaf pwysig.
Yn ystod y broses hon, mae staff yn ymgyfarwyddo â'r system newydd, ac efallai y bydd oedi neu amhariad dros dro ar gyfer rhai gwasanaethau tra bod newidiadau'n cael eu gwneud. Rydym yn deall y gallai hyn achosi rhywfaint o anghyfleustra, ac rydym yn diolch i chi am eich amynedd.
Er gwybodaeth, mae popeth yn parhau fel arfer o ran y gwasanaethau allweddol. Gallwch chi barhau i dalu eich rhent fel arfer, a rhoi gwybod am atgyweiriadau.
Bydd y gwelliannau hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth gwell, mwy effeithlon yn y tymor hir.
Diweddarwyd y dudalen ar: 20/01/2026
Mae cymorth, gwybodaeth a chyngor ynghylch materion tai ar gael mewn cymunedau gwledig ledled Sir Gaerfyrddin.

