Gwresogi eich cartref

Mae yna nifer o fuddion ariannol i'ch helpu chi i leihau eich biliau tanwydd. Rhoddir taliad tanwydd gaeaf (a elwir weithiau'n lwfans tanwydd gaeaf), taliad tywydd oer a gostyngiad cartrefi cynnes yn awtomatig i'r rheiny sy'n gymwys i'w derbyn. Fodd bynnag, mae'n well bob amser edrych i weld a ydych yn derbyn y taliadau hyn.

Taliad blynyddol yw'r Taliad Tanwydd Gaeaf neu'r Lwfans Tanwydd Gaeaf, er mwyn helpu â chostau gwresogi, ac fe'i rhoddir i aelwydydd sy'n cynnwys rhywun a anwyd ar neu cyn 5 Awst 1953. Dylai gael ei dalu'n awtomatig drwy Bensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid Budd-dal Tai, Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Budd-dal Plant na'r Credyd Cynhwysol).

GOV.UK – TALIAD TANWYDD GAEAF

 

Adennill Taliadau Tanwydd Gaeaf 2025

Os yw cyfanswm incwm unigol cwsmer ar gyfer blwyddyn dreth 2025-26 yn un o’r canlynol:  

  • £35,000 neu lai — bydd yn cadw ei Daliad Tanwydd Gaeaf 2025 
  • mwy na £35,000 — bydd CThEF yn cymryd ei Daliad Tanwydd Gaeaf 2025 yn ôl  

Os yw'r cwsmer yn byw mewn tŷ gyda rhywun arall sydd hefyd wedi cael taliad, byddwn yn edrych ar incwm personol pob unigolyn ar wahân. Er enghraifft, os yw Person A yn ennill £36,000 a Pherson B yn ennill £22,000, bydd CThEF yn cymryd y taliad yn ôl gan Berson A, ond bydd Person B yn cadw ei daliad.  

Mae CThEF hefyd wedi darparu cyfrifiannell ar GOV.UK i helpu cwsmeriaid i gyfrifo a fydd cyfanswm eu hincwm dros £35,000. Mae'r gyfrifiannell hefyd yn dweud wrth gwsmeriaid sut y bydd y taliad yn cael ei adennill.

Adennill ar gyfer cwsmeriaid TWE 

Bydd CThEF yn casglu’r taliad yn awtomatig trwy newid cod treth y cwsmer o fis Ebrill 2026 ymlaen, oni bai ei fod eisoes yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad.  

Mae hyn yn golygu y byddwn yn newid cod treth y cwsmer ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Ar gyfer taliad nodweddiadol o £200, byddwn yn didynnu tua £17 y mis.  

Nid oes angen iddo wneud dim na ffonio CThEF. 

Sylwer: Ym mis Chwefror 2026, gall cwsmeriaid gael hysbysiad o’u cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth 2026 i 2027 nad yw eto’n cynnwys addasiadau ar gyfer eu taliad gaeaf. Nid oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau na ffonio CThEF. Dylent gael cod treth wedi'i ddiweddaru, sy'n adlewyrchu adennill eu taliad gaeaf, ddechrau mis Ebrill 2026.

Adennill ar gyfer cwsmeriaid Hunanasesiad 

Bydd CThEF yn casglu eu taliad trwy eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2025 i 2026.  

I bobl sy’n cyflwyno ar-lein, lle bo modd, bydd CThEF yn cynnwys taliad 2025 ar eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein sydd i'w chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2027. Bydd y taliad yn dangos, naill ai fel Taliad Tanwydd Gaeaf neu Daliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn. Dylai cwsmeriaid wirio bod eu taliad tanwydd y gaeaf ar eu Ffurflen Dreth ar-lein a’i gynnwys eu hunain os nad yw.  

Bydd angen i bobl sy’n cyflwyno ar bapur ei gynnwys ar eu Ffurflen Dreth bapur, sydd i fod i gael ei chyflwyno erbyn 31 Hydref 2026.

Optio allan o daliadau yn y dyfodol

Gall unrhyw un sy'n disgwyl i gyfanswm eu hincwm unigol o'u pensiwn preifat, pensiwn y wladwriaeth ac unrhyw ffynonellau eraill fod dros £35,000 optio allan o daliadau yn y dyfodol yn hytrach na bod CThEF yn eu cymryd yn ôl. 

Gall cwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon optio allan o gael taliadau gaeaf yn y dyfodol drwy ffurflen ar-lein yr Adran Gwaith a Phensiynau ar GOV.UK o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Gwybodaeth a chymorth bellach

Mae fideo esboniadol sy'n amlinellu sut y bydd Taliadau Tanwydd Gaeaf neu Daliadau Gwresogi Gaeaf Oedran Pensiwn yn cael eu hadennill ar sianel YouTube CThEF. 
 
Mae rhagor o wybodaeth am ddull adennill CThEF ar gael ar GOV.UK.  
 
Mae gwybodaeth gyffredinol am Daliadau Tanwydd Gaeaf ar gael yn https://www.gov.uk/taliad-tanwydd-gaeaf

Rhoddir Taliad Tywydd Oer os cofnodir bod y tymheredd cyfartalog yn eich ardal yn 0°C neu'n is, neu os rhagwelir hynny, am 7 diwrnod yn olynol. Cewch daliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth. Gallech gael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn derbyn y canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Cynhwysol

GOV.UK - TALIAD TYWYDD OER

Mae'r cyflenwyr ynni mwyaf yn rhoi Gostyngiad Cartrefi Cynnes i gynorthwyo pobl sydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd. Mae rhai o'r cyflenwyr cyfleustodau llai hefyd yn cymryd rhan yn y cynllun yn wirfoddol. Drwy'r cynllun, gallech gael taliad unwaith yn unig o £140 a dynnir oddi ar eich bil trydan yn uniongyrchol. Mae hyn yn ychwanegol at y Taliad Tanwydd Gaeaf a'r Taliad Tywydd Oer.

GOV.UK - CYNLLUN GOSTYNGIAD CARTREFI CYNNES

Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn wasanaeth am ddim a ddarperir gan gyflenwyr cyfleustodau a gweithredwr y rhwydwaith. Gallwch gael y cymorth os ydych:

  • wedi cyrraedd oedran pensiwn
  • yn anabl neu â salwch cronig
  • os oes gennych gyflwr meddygol hirdymor
  • os oes plant yn byw gyda chi sydd dan 5 oed
  • os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich golwg neu anghenion cyfathrebu ychwanegol
  • os ydych yn agored i niwed.

Mae'r cymorth yn amrywio gan ddibynnu ar y cyflenwr ac ar amgylchiadau'r unigolyn, ac ymhlith y gwasanaethau a gynigir y mae'r canlynol:

  • Biliau fformat mawr neu mewn Braille
  • Rhybudd ymlaen llaw ynghylch tarfu ar y gwasanaeth
  • Blaenoriaeth os bydd y cyflenwad trydan yn methu
  • Darllen mesuryddion bob chwarter
  • Archwiliadau diogelwch nwy bob blwyddyn
  • Symud mesuryddion i sicrhau mynediad gwell

Er mwyn ymuno â'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, bydd angen ichi gysylltu â'ch holl gyflenwyr cyfleustodau yn uniongyrchol. Mae eu manylion cyswllt i'w cael ar eu gwefannau neu ar y biliau a anfonir atoch.

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn llefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw.

Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i’ch helpu i leihau eich biliau ynni, cynyddu eich incwm, a lleihau eich ôl troed carbon.

Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel inswleiddio, pwmp gwres neu baneli solar.
Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244 neu ewch i wefan Nyth Cymru.