Ymgeisio am...
Byddwn yn sicrhau bod mwy o'n gwasanaethau ar gael trwy ein gwefan, e-bostiwch digidol@sirgar.gov.uk a dywedwch wrthym beth yr hoffech allu ymgeisio amdano ar-lein.
Byddwn yn sicrhau bod mwy o'n gwasanaethau ar gael trwy ein gwefan, e-bostiwch digidol@sirgar.gov.uk a dywedwch wrthym beth yr hoffech allu ymgeisio amdano ar-lein.
Rhaid i chi wneud cais am ganiatâd os ydych chi am osod addurniadau tymhorol uwchben neu ger ffordd, er enghraifft goleuadau Nadolig, baneri ac ati.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am addurniadau tymhorol
Os oes angen i chi gloddio'r ffordd e.e ar gyfer tyllau prawf/ffurfio arwynebau dros dro , fydd angen i chi gyflwyno cais am drwydded adran 171.
Ar gyfer unrhyw waith ffordd sydd angen goleuadau traffig cludadwy bydd angen i chi gyflwyno cais.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am oleuadau traffig cludadwy
Gallwch wneud cais am arwyddion brown ar gyfer atyniadau ymwelwyr, gwestai / gwestai bach, bwytai, tafarndai, hosteli ieuenctid, safleoedd gwersylla a charafanau, addoldai.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am arwyddion twristiaeth brown
Gallwch wneud cais am arwyddion os yw llwybr ceffyl / cilffordd / lôn werdd agored yn croesi'r ffordd.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Arwyddion rhybuddio marchogaeth (1)
Mae'r Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn gyfrifol am gefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhain yn cynnwys: A477, A40, A48, A483. Dylid rhoi gwybod yn uniongyrchol iddynt am unrhyw weithiau neu faterion.
Gallwch wneud cais am fae parcio i'r anabl ond os caiff eich cais ei gymeradwyo, gall unrhyw yrrwr sy'n arddangos bathodyn glas dilys ei ddefnyddio.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am leoedd parcio i'r anabl
Yn caniatáu i deithwyr neu yrwyr barcio mewn ardaloedd dynodedig. Mae ceisiadau'n cymryd hyd at 8 wythnos i'w prosesu.
Mae angen trwydded caffi stryd os hoffai'ch busnes osod byrddau a chadeiriau ar balmentydd ac ardaloedd stryd i gerddwyr.
Lawrlwythwch ffurflen gais
Gwybodaeth am drwyddedau caffi stryd
Gwnewch gais am gau ffordd mewn argyfwng pan fydd perygl uniongyrchol i ddefnyddwyr y ffordd neu'r cyhoedd.
Gwenud cais am gau ffordd mewn argyfwng
Gwybodaeth am gau ffyrdd mewn argyfwng