Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024

Lleoedd parcio i'r anabl yw focs siâp petryal sy'n cynnwys y geiriau ANABL/DISABLED ynghyd â'r arwydd rheoleiddio cysylltiedig a caniateir i ddefnyddwyr ceir anabl.

Fydd y lleoedd parcio i'r anabl DDIM am defnydd y person a wnaeth y gais amdano yn unig. Gall unrhyw yrrwr sy'n arddangos bathodyn glas dilys ei ddefnyddio.

Os hoffech wneud cais am le parcio i'r anabl ar Gefnffordd h.y. A40 A48 A477 neu A483,  cysylltwch a Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru drwy ffonio 0300 123 1213

I gael eich ystyried ar gyfer lle parcio i'r anabl, mae'n rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Mae gennych Fathodyn Glas ac rydych yn derbyn cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (HRMCDLA) / Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) sy'n cynnwys disgrifyddion penodol.

neu

  • Rydych yn defnyddio cadair olwyn ac yn gallu gwthio'r gadair y tu allan am bellter byr iawn yn unig

neu

  • Rydych yn dioddef problemau cylchrediad parhaol a sylweddol (e.e. heb goesau, diffygion o ran asgwrn cefn neu system nerfol ganolog) sy'n arwain at symudedd cyfyngedig difrifol a/neu ddibyniaeth barhaol ar galiperau/baglau penelin.

Ynghyd â bodloni'r meini prawf, mae angen:

  • bod diffyg lleoedd parcio ar eich stryd ac mae'n rhaid iddo fod yn ddiogel i ddarparu lle parcio.
  • ni ddylai fod parcio oddi ar y ffordd ar gael i chi megis garej hygyrch neu lawr caled.
  • lleoliad i'r bae i godi/ei osod o fewn 25 metr i'ch eiddo.

Mae ffi o £250 os caiff eich cais ei gymeradwyo. Cysylltir â chi am daliad ar ôl cwblhau eich cais.

Canllawiau ar gyfer ffurflen gais

Mynediad i lleoedd parcio i'r anabl

Oherwydd cyllideb gyfyngedig a galw mawr am leoedd parcio i bobl anabl, mae system flaenoriaethu wedi cael ei datblygu. Mae'r sgôr yn seiliedig ar ffeithiau ac arsylwadau a gofnodwyd er mwyn asesu a blaenoriaethu pob cais.

Meini Prawf Asesu Sgôr Uchaf
Parcio addas oddi ar y stryd 20 pwynt
Aliniad y ffordd, parcio a reoleiddir
a diogelwch
10 pwynt
Lled y ffordd 10 pwynt
Dosbarth y Ffordd 10 pwynt
Arolwg parcio (4 ymweliad) 20 pwynt

Rhaid cael isafswm sgôr o 35 o bwyntiau cyn bod cais yn cael ei osod ar restr flaenoriaethu.
Caiff y rhestr ei gosod mewn trefn ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd.
Bydd y ceisiadau â'r sgorau uchaf yn cael gwybod eu bod wedi cyrraedd cyfnod ymgynghori'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.
Bydd ceisiadau aflwyddiannus sydd â sgôr yn llai na 35 o bwyntiau yn cael gwybod a bydd y cais yn cael ei dynnu'n ôl.

Byddwn yn:

  • ymweld â'ch cartref ar amseroedd gwahanol bedair gwaith a byddwn yn asesu pa mor anodd ydyw i barcio ar eich stryd.
  • gynnal ymgynghoriadau cyhoeddus â gwasanaethau argyfwng, grwpiau mynediad pobl anabl lleol, cynghorau sir lleol ynghyd â pherchnogion a phreswylwyr eiddo cyfagos.

Noder y gall hyn fod yn broses hir iawn gan dim ond unwaith y flwyddyn y caiff y rhestr o geisiadau eu hadolygu. Dibynnu pryd byddwch chi’n gweud eich cais, gall cymryd hyd at 12 mis.

Os ydych chi'n symud tŷ ac mae gennych Lleoedd parcio i'r anabl os nad oes unrhyw person arall yn y lleoliad gyda bathodyn glas sydd yn gallu defnyddio'r lle, byddwn yn trefnu iddo gael ei waredu.

Os na yw'r ffordd wedi ei fabwysiadu byddai'n rhaid i chi gael caniatâd / cymeradwyaeth gan bob cartref sy'n byw ar y ffordd heb ei fabwysiadu.

Mae marciau sydd â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn orfodadwy gan y swyddogion gorfodi sifil.

C: Beth yw Marciau Lle Parcio i'r Anabl? A: Mae marciau lle parcio i'r anabl yn focs siâp petryal sy'n cynnwys y geiriau ANABL/DISABLED, ynghyd â'r Arwydd Rheoleiddio cysylltiedig.
C: A oes yn rhaid i'r anabledd fod yn barhaol? A: Oes

C: A oes yn rhaid i mi dalu am farciau lle parcio i'r anabl?

A: Oes. Os byddwch yn llwyddiannus, codir tâl o £250 am roi lle parcio i'r anabl.

C: Sut ydw i'n gwneud cais am le parcio i'r anabl?

A: Gofynnir i chi lenwi ffurflen gais a rhaid i chi ddarparu manylion eich bathodyn glas a'ch prawf diweddaraf o hawl i fudd-daliadau.

C: A yw marciau lle parcio i'r anabl yn cael eu cadw ar gyfer un person?

A: Na, maen nhw'n gyfleuster i bobl anabl felly hyd yn oed os yw y tu allan i'ch cartref mae defnyddwyr ceir anabl eraill yn dal i gael parcio yn y lle parcio.

C: All unrhyw un barcio mewn lle gyda marciau i'r anabl?

A: Na, dim ond cerbydau sydd â bathodyn glas anabl dilys wedi'i arddangos all barcio mewn lle parcio i'r anabl.

C: A yw'r llefydd parcio hyn yn orfodadwy gan y Swyddogion Parcio?

A: Ydyn, rydym yn darparu lle parcio sy'n orfodadwy gan y Swyddogion Parcio. Rydym yn rhoi gwybod i'ch cymdogion am y bwriad i ddarparu lle parcio a sut y bydd darparu Lle Parcio i'r Anabl yn helpu'r rhai sydd angen ei ddefnyddio.

C: A oes gan farciau anabl orfodaeth gyfreithiol?

A: Dim ond marciau sydd â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) y gellir eu gorfodi

C: Mae gen i fathodyn glas ond does gen i ddim cerbyd wedi'i gofrestru i'm cyfeiriad. Fodd bynnag, yn ddyddiol mae aelodau o'm teulu yn ymweld â mi ac yn helpu trwy fynd â mi allan. Allwch chi roi lle parcio i mi?

A: Ni allwn ddarparu lle parcio i ofalwyr nad ydynt yn byw yn yr eiddo. Rydym yn deall yr anawsterau yma ond ni allwn ddarparu lle parcio a fydd yn parhau'n wag am gyfnodau hir o amser.

 

C: A gaf i le parcio os yw'r ambiwlans yn ymweld yn aml?

A: Na chewch

C: A gaf i le parcio heb gerbyd?

A: Na chewch