Cau ffordd ar gyfer gwaith sydd wedi'i gynllunio
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/04/2025
Cau ffyrdd wedi'u cynllunio
Mae angen deuddeg wythnos o rybudd cyn i chi ddisgwyl i'r gwaith ffordd gychwyn ar geisiadau i gau am fwy na phum niwrnod.
Mae angen rhoi chwe wythnos o rybudd cyn y disgwylir i'r gwaith ffordd ddechrau ar gyfer ceisiadau i gau ffordd am hyd at bum diwrnod.
Mae angen cyflwyno ceisiadau o leiaf 8 wythnos cyn pryd rydych chi'n disgwyl i'r gwaith ffordd ddechrau. Os gallwch gynnal lled ffordd o 3.2 metr neu fwy, nid oes angen i chi wneud cais am gau ffordd ond bydd angen i chi ein hysbysu o'r gwaith ac yn dibynnu ar natur y gwaith ffordd efallai y bydd angen i chi wneud cais am oleuadau traffig cludadwy a'r drwydded gwaith stryd berthnasol.
Ffioedd cau ffyrdd wedi'u cynllunio
Codir y canlynol arnoch i wneud cais. Os cymeradwyir eich cais, anfonir dyfynbris atoch hefyd am gost hysbysebu cau'r ffordd ac unrhyw ffioedd gweithredu.
- Hyd at 5 diwrnod - £1275.00
- Dros 5 diwrnod - £1887.00. Yn ogystal, codir tâl am hysbysebu yn ddiweddarach; bydd y costau hyn yn amrywio ond byddant oddeutu £700.00.
- Pob achos o gau TO15 (argyfwng, hyd at 5 diwrnod a thros 5 diwrnod) - £900
Rydym yn derbyn taliadau cardiau debyd / credyd. Ni ellir ad-dalu ffioedd cais.
Gallwn hefyd ddarparu arwyddion ar gyfer y llwybr amgen am gost ychwanegol o £263.00.
Os cymeradwyir eich cais am 5 diwrnod, anfonir anfoneb atoch hefyd am gost hysbysebu cau ffyrdd.
Tâl am newidiadau i'r gorchmynion a'r hysbysiadau presennol, i gynnwys newidiadau mewn dyddiadau - £475.00
Cau Ffyrdd ar gyfer Digwyddiadau
Y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer digwyddiadau yw drwy’r ESAG (Event Safety Group), y gellir cysylltu ag ef ar y cyfeiriad e-bost isod: EventSafetyAG@sirgar.gov.uk
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma hefyd: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/trefnu-digwyddiadau/grŵp-cynghorol-diogelwch-digwyddiad/
Wedi hynny, byddwn angen eich cynllun rheoli digwyddiad, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, asesiad risg, a chynllun rheoli traffig llawn yn dangos maint y cau, llwybr amgen ac arwyddion dargyfeirio, efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio cwmni rheoli traffig ar gyfer hyn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r uchod, cysylltwch â ni yn ENTrafficManagement@sirgar.gov.uk i gael ffurflen gais ar gyfer cau ffyrdd dros dro at eich defnydd chi, nid ydym yn codi tâl am ddigwyddiadau ar hyn o bryd, ond gall hyn newid. Mae angen o leiaf 12 wythnos o rybudd arnom ar gyfer unrhyw gau sy'n gysylltiedig â digwyddiad.
Sut i wneud cais
I wneud cais am gau ffordd wedi'i gynllunio, bydd angen i chi ddarparu:
- Tystiolaeth ffotograffig a / neu ysgrifenedig. Bydd methu â darparu tystiolaeth ddigonol yn arwain at yr angen i gynnal cyfarfod safle cyn y gellir cychwyn ar y gwaith.
- Llwybr amgen addas y gellir ei ddefnyddio.
- Cynllun lleoliad y cau.
- Ffioedd
Dim ond ar ôl i chi dderbyn e-bost yn cadarnhau cymeradwyaeth y dylai'r gwaith ddechrau.