Gostyngiad i bobl ag Amhariad Gwybyddol Sylweddol

Gallai unrhyw un sydd ag ardystiad meddygol am Amhariad Gwybyddol Sylweddol (AGS) fod yn gymwys i gael esemptiad neu ddisgownt Treth Gyngor. Mae person yn agored i Amhariad Gwybyddol Sylweddol os oes ganddo gyflwr meddwl difrifol a pharhaol neu fo newid niwrolegol yn effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu sy'n cael effaith sylweddol ar fywyd beunyddiol yr unigolyn hwnnw. 

Mae cyflyrau a all arwain at Amhariad Gwybyddol Sylweddol neu salwch meddwl yn cynnwys clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia, clefyd Parkinson, anawsterau dysgu difrifol neu strôc, ond gall sawl un arall fod yn berthnasol hefyd. Nid yw'r cyflyrau hyn yn eu hunain yn golygu y bydd person yn cael diagnosis o Amhariad Gwybyddol Sylweddol gan feddyg. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad/disgownt, rhaid i'r person gael diagnosis o Amhariad Gwybyddol Sylweddol gan feddyg, a rhaid iddo hefyd fod yn gymwys i gael un o'r budd-daliadau a restrir ar y ffurflen hon

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Byw i’r Anabl (cydran gofal cyfradd uwch neu ganol)
  • Cynnydd mewn pensiwn anabledd (gan fod angen gweini cyson)
  • Lwfans Gweithio i’r Anabl
  • Cymhorthdal Incwm (sy’n cynnwys premiwm anabledd)
  • Taliad Atodol neu Lwfans Cyflogadwyedd
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau pan fo cyfyngiad ar allu person i weithio a/neu i wneud gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith)

Lefel y disgownt:

  • Os ydych wedi cael diagnosis o AGS gan feddyg, ac yn byw ar eich pen eich hun neu dim ond gyda phobl eraill sydd â AGS, byddwch yn cael eich eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o AGS gan feddyg, ac yn byw gydag un oedolyn sy’n gymwys i dalu treth gyngor, bydd eich cartref yn cael gostyngiad o 25%.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o AGS gan feddyg, ac yn byw gyda 2 neu ragor o oedolion, ni fydd unrhyw ostyngiad.

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)