Talu eich Treth Gyngor
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/10/2025
Caiff y dreth gyngor ei thalu mewn 10 rhandaliad misol gan ddechrau ym mis Ebrill, oni bai eich bod wedi gofyn am gael talu 12 rhandaliad. Os hoffech wneud taliadau dros 12 mis, anfonwch neges e-bost at: Arolygaeth.Refeniw@sirgar.gov.uk.
Y dyddiad talu yw'r 15fed o'r mis neu cyn hynny oni bai eich bod wedi dewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol. Os ydych yn dod yn gymwys i dalu Treth y Cyngor yn ystod y flwyddyn bydd eich rhandaliadau'n cael eu haddasu yn ôl nifer y dyddiadau talu sy'n weddill.
Y ffordd hawsaf a mwyaf diogel o dalu.
- Gallwch ddewis o 3 dyddiad talu - 5ed, 15fed neu 28ain o bob mis.
- Mae trefnu Debyd Uniongyrchol yn syml ac ni chodir tâl amdano, a gallwch ei ganslo ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at eich banc neu gymdeithas adeiladu.
- Mae'r taliadau'n uniongyrchol ac wedi'u diogelu gan y Warant Debyd Uniongyrchol.
- Nid oes angen adnewyddu bob blwyddyn (oni bai eich bod yn symud cyfeiriad)
Sefydlu'ch Debyd Uniongyrchol:
- Ar-lein: Debyd Uniongyrchol ar-lein
- Trwy alwad ffôn: Ffôn: 01267 228602
- Bydd angen arnoch eich cyfeirnod cyfrif y Dreth Gyngor ynghyd â manylion eich cyfrif banc.
Byddwch yn derbyn llythyr yn nodi symiau, dyddiadau ac amlder y taliadau a fydd yn cael eu tynnu o'ch cyfrif ac o unrhyw newidiadau 10 diwrnod ymlaen llawn, er mwyn rhoi amser i chi wneud ymholiadau yn eu cylch os oes angen.
Defnyddiwch ein system dalu ddiogel ar-lein i dalu’r dreth gyngor.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:
- rhif eich cyfrif treth gyngor
- eich cerdyn debyd neu gredyd
- y swm yr hoffech dalu
Rydym yn derbyn y mathau canlynol o gardiau credyd / debyd - Visa, Mastercard, Switch, Solo, Visa Delta.
Gallwch talu yn un o swyddfeydd talu'r Cyngor:
- Caerfyrddin Hwb, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE
- Llanelli Hwb, 36 Stryd Stepney, Llanelli SA15 3TR
- Rhydaman Hwb, 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA31 3BS
Gwnewch eich siec yn daladwy i Cyngor Sir Caerfyrddin.
Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. Mae hon yn system dalu awtomataidd 24 awr.
Bydd angen i chi gael y canlynol wrth law cyn i chi ffonio:
- rhif cyfrif eich treth gyngor
- eich cerdyn debyd neu gredyd
- y swm yr hoffech dalu
Ffôn: 01267 679900. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.
Gallwch ddewis siarad ag un o'n hymgynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid am eich bil ar 01267 234567. Oherwydd newidiadau mewn rheoliadau, mae bellach yn ofynnol i chi fewnbynnu manylion eich cerdyn eich hun er mwyn prosesu eich taliad. Sylwch nad yw hwn yn wasanaeth 24 awr ac mae'n berthnasol yn ystod oriau agor y ganolfan alwadau yn unig.


