Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/04/2024

Mae’r Cynllun Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant yng Nghymru i ddarparu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau sy’n gymwys ar gyfer 2024-25. Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig 40% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.

Mae mwy gwybodaeth ar gael ar gwefan Busnes Cymru.

Gwneud cais am Ardrethi Annomestig 2024-25

Cyllid