Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/03/2024

Gall Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin roi cymorth ariannol i fusnesau ac unig fasnachwyr ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd a phresennol, lle mae swyddi’n cael eu creu o ganlyniad i’r prosiect.

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau fydd yn dod â buddiannau amlwg i’r economi leol o ran nifer ac ansawdd y swyddi uniongyrchol a gaiff eu creu mewn sectorau allweddol.

 

Beth sydd ar gael?

Seilir y grant naill ai ar £20,000 am bob swydd a grëir neu hyd at y cyfraddau ymyrraeth canlynol, pa ffigwr bynnag sydd leiaf:

  • Busnesau Bach: 45%
  • Busnesau Canolig: 35%
  • Busnesau Mawr*: 25%

Uchafswm y grant yw £200,000  Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y gallai hyn gynyddu. 

 

Cymhwysedd

  • Bydd yn rhaid i'r adeilad sydd i'w ddatblygu, ei wella neu ei helaethu fod mewn Ardal Wledig o Sir Gaerfyrddin fel y diffiniwyd yn Strategaeth Datblygu Lleol Ardaloedd Gwledig Sir Gaerfyrddin
  • Bydd grantiau ar gyfer gwaith ar eiddo ar gael i berchnogion y buddiant rhydd-ddaliad yn yr eiddo neu i ddalwyr prydles sydd i barhau am o leiaf saith mlynedd arall ar ôl y dyddiad a rhagwelir y bydd taliad terfynol y grant yn cael ei wneud. 

I wneud cais am Ffurflen Gais anfonwch e-bost at: DatblyguEconomaidd@sirgar.gov.uk

*Manylion bellach ar gael wedi nodi yng nghanllawiau’r grant.

Pwysig: Darllenwch y canllawiau cyn gwneud cais

          canllawiau          

Cyllid