Heneiddio'n Dda yn Sir Gâr

Yn Sir Gâr, ein nod yw cefnogi a hyrwyddo cymunedau oed gyfeillgar lle gall bobl heneiddio’n dda a byw bywyd hwyrach o ansawdd isel. Mae creu cymunedau oed gyfeillgar yn rhoi cyfle i ni sicrhau nad yw oedran yn rhwystr i fyw yn dda. Mae’n ein galluogi i greu amgylchedd lle gall pobl gymryd rhan mewn cymdeithas a chael eu gwerthfawrogi am y cyfraniadau cadarnhaol y maent yn eu gwneud. Rhywle y gall pobl deimlo eu bod wedi’u cynnwys a chymryd rhan yn y gweithgareddau y maent yn eu gwerthfawrogi a rhywle y gallant barhau i fyw yn eu cartrefi cyhyd ag y bod modd gan deimlo’n ddiogel ac yn gyffyrddus.

Sir Gâr yw’r 4ydd awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru, gyda 190, 073 o drigolion, sy’n gynnydd o 9.5% ers 2001. Mae nifer y bobl 65 oed a hŷn yn y Sir wedi cynyddu 18.9% ers Cyfrifiad 2011. Y cynnydd ymhlith y grwpiau hyn yw’r un mwyaf dramatig a welwyd, yn benodol rhieni rhwng 60-74 oed a 85 oed a throsodd, lle adroddwyd cynnydd o 24.1% a 32.4% yn y drefn honno, sy’n atgyfnerthu’r model o boblogaeth sy’n heneiddio. Erbyn 2039 rhagwelir y bydd bron 1 o bob 3 o drigolion Sir Gâr yn 65 oed a hŷn a dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried effaith cymdeithas sy’n heneiddio nawr.

Mae’r boblogaeth sydd yn heneiddio yn Sir Gar yn gosod her i bob cymuned yn y Sir i ddod yn fwy cyfeillgar i oedran a cefnogi pobl i allu fyw yn dda wrth iddynt heneiddio. Mae gennym ni, fel darparwr gwasanaethau cyhoeddus, gyfrifoldeb i sicrhau bod ein preswylwyr yn byw bywydau llawn drwy roi cyfle i bawb heneiddio’n dda a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol.