Defnyddio dronau
O hysbysebion traeth i beirianneg sifil yng nghanol trefi, rydyn ni'n derbyn llawer o geisiadau am ffilmio o'r awyr. Mae'n rhaid i bawb hedfan yn gyfreithlon heb effeithio ar yr amgylchedd naturiol (mae'n bwysig nad yw'r dronau'n tarfu ar ein bywyd gwyllt, da byw nac amrywiaeth fawr o adar, yn enwedig yn ystod tymhorau nythu neu baru'r Gwanwyn). Mae tarfu ar fywyd gwyllt sydd wedi'i ddiogelu yn drosedd dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Mae maes awyr Pen-bre yn ogystal â safleoedd milwrol ar Draeth Pen-bre a Phentywyn yn y sir, ac mae hedfan isel gan awyrennau a hofrenyddion yn digwydd yn aml ar draws Sir Gâr. Ni ddylech chi hedfan ger y rhain heb ganiatâd ymlaen llaw.
Ni ddylech chi hedfan dros neu ger torfeydd o bobl, ac os ydych chi'n ffilmio neu'n tynnu lluniau gyda'ch drôn, cofiwch am y cyfreithiau preifatrwydd a diogelu data.
Os hoffech chi ddefnyddio drôn ar dir mae'r Cyngor Sir yn berchen arno neu'n ei reoli, llenwch y ffurflen gais yma. Rhaid i chi gael yr yswiriant cywir a'r cymwysterau a'r trwyddedau priodol ar gyfer y math o ddrôn rydych chi'n dymuno ei ddefnyddio, a'r ffordd rydych chi'n bwriadu ei hedfan (A2Cofc, GVC, Awdurdodiad Gweithredol ac ati). Bydd angen eich ID Hedfanwr/Gweithredwr, asesiad risg/datganiad dull a diagram o'r ardal yr hoffech hedfan ynddi.
Sut y gallwn helpu...
Rydym un o’r sefydliadau mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ogystal â bod yn gorff statudol ar gyfer priffyrdd, parcio a thrwyddedu, rydym yn rheoli portffolio amrywiol o gyfleusterau o safon – o oleudai i gelloedd yr heddlu Fictoraidd, ystadau tai i gestyll.
Rydym yn deall yn llawn y pwysau sydd ar bob cynhyrchiad a’r gofynion, ac rydym wedi ymrwymo i’r gred mai’r ffordd orau o alluogi ffilmio yw sicrhau nad yw'n rhoi gofynion afresymol ar yr ardal lle mae'n digwydd. Mae cynllunio, paratoi ac ymgynghori effeithiol yn allweddol i hyn - mae angen o leiaf 10 diwrnod gwaith o rybudd arnom ar gyfer pob cais i ffilmio yn Sir Gâr
.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
- Gwrando ar ymholiadau cychwynnol, darparu gwybodaeth am amodau lleol a gwasanaethau logisteg
- Cysylltu â'r gadwyn gyflenwi leol, awdurdodau cyhoeddus eraill, a'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Sirol
- Helpu i sicrhau caniatâd i ffilmio
- Rheoli traffig a pharcio
- Ymgysylltu cymunedol
- Helpu i drefnu llety a lletygarwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ffilmio yn SirGâr, e-bostiwch ni. Os ydych chi'n barod i wneud cais, mae angen i ni wybod ble a phryd y byddwch chi'n ffilmio, maint y criw, gwybodaeth am dronau / offer arbenigol, unrhyw ofynion parcio neu wasanaethau ychwanegol y gallai fod eu hangen arnoch chi fel lletygarwch, ymgysylltu â'r gymuned ac ati.
Gweneud cais am ganiatâd ffilmio
Crwydro Sir Gâr...
Ewch i Ddarganfod Sir Gâr i weld rhai o'r lleoliadau ysbrydoledig y gallech chi ffilmio ynddynt.
Traethau
Gerddi a mannau gwyrdd
Llwybrau Celtaidd