Arfor
ARFOR 2
Prif amcan Arfor 2 yw cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.
Fel rhan o’r rhaglen, mae ffrydiau gwaith penodol wedi’u datblygu sy’n rhoi cyfleoedd i fusnesau, sefydliadau cymunedol a’r sector cyhoeddus i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu rhanbarth Arfor.
Cymunedau mentrus
Un o ymyriadau'r rhaglen yw'r gronfa Cymunedau Mentrus sy'n ceisio datblygu Gofodau Cymraeg sy'n cynnig amgylchedd naturiol i bobl weithio a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gan weithredu fel cyfle grant trydydd parti i fusnesau a sefydliadau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin, nod y gronfa yw rhoi cymorth i ddatblygu prosiectau sy'n cyd-fynd â nodau strategol y rhaglen a rhoi atebion i'r heriau a nodwyd ar draws y rhanbarth.
Beth yw'r cynnig?
- Cymorth ariannol i ariannu hyd at 70% o gostau'r prosiect (cyfalaf a refeniw) hyd at £7000
- Rhaid cwblhau prosiectau erbyn 10 Chwefror 2025
Bydd angen i ymgeiswyr:
• Ymrwymo i egwyddorion ARFOR, trwy lofnodi cytundeb egwyddorion ar y cyd.
• Cwblhau asesiad ieithyddol drwy gynllun Cynnig Cymraeg, Gomisiynydd y Gymraeg.
• Ymrwymo i fynychu gweminarau penodol e.e. Sero Net; Dwyieithrwydd
• Ymrwymo i adolygu a chynyddu defnydd o’r Gymraeg.
• Ymrwymo i gynnig cyfraddau Cyflog Byw y Sefydliad Cyflog Byw (Living Wage Foundation).
Mae'r rhaglen hon wedi ailagor am gyfnod byr. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn Dydd Sul 12 Ionawr 2025 am 11:59pm. Disgwylir y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn diwedd mis Ionawr.
Oherwydd amserlen fer y rhaglen, rhaid i ymgeiswyr gwblhau eu prosiectau erbyn diwedd mis Chwefror 2025.
Rhaid i ymgeiswyr allu rhoi sicrwydd bod hyn yn bosibl yn eu cais.

Llwyddo'n Lleol 2050 Gyrfa yn Sir Gâr
Fel rhan o raglen Llwyddo’n Lleol, mae gan fusnesau sydd wedi lleoli yn Sir Gâr gyfle i fod yn rhan o gynllun cyffrous a gall rhoi cymorth ariannol i fusnesau i gynnal person ifanc yn y gweithle.
Pwy sy’n gymwys?
- Busnes neu sefydliad sydd a cyfle / swydd gwerthfawr i gynnig i unigolyn lleol
- Busnes neu sefydliad sydd a cyfle gwerthfawr i ddatblygu aelod staff / cynnig profiadau newydd i aelod staff presennol
- Busnes neu sefydliad sydd a’i prif swyddfa yn Sir Gâr,
- Busnes neu sefydliad sy’n cael ei redeg yn bennaf drwy’r Gymraeg neu oleuaf yn rhoi pwyslais/platfform gwbl gyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg.
Allwch chi ei gynnig?
- Lleoliad gwaith o fewn maes arloesol – er enghraifft - technoleg, gwyddoniaeth, carbon niwtral, marchnata digidol, cyfathrebu, iechyd a lles, ynni adnewyddol, technoleg amaethyddol
- Cynnig cyfnod o waith i’r unigolyn a/neu profiadau arbennig dros gyfnod amhenodol
- Cynnig cyfleodd gwaith diddorol i’r unigolyn • Cynnig sesiynnau mentora a hyfforddiant i’r unigolyn er mwyn iddyn nhw fuddio cymaint a phosib o’r bartneriaeth
Beth allwn ni ei gynnig?
- Mi fydd modd i chi gyflwyno cais am hyd at £6000 tuag at costau cyflog, cyfleoedd arbennig, a/neu hyfforddiant aelod staff dan 35 oed.
- Gellir cefnogi pobl sydd mewn gwaith yn barod (h.y. busnes yn ceisio am gefnogaeth i ddatblygu aelod presennol o staff)
Proses Rectriwtio
- Bydd Llwyddo’n Lleol yn recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan yn y rhaglen ac yn paru’r pobl ifanc gyda cwmnïau / sefydliadau o’r un maes gwaith. Byddwch fel busnes yn rhan o’r broses pennu honno.
- Mae hefyd modd i gwmnïau / sefydliadau adnabod unigolion eu hunain.
Sut I ymgesio?
Mae'r cynnig hwn yn gyfyngedig,all ond cyllido costau staff hyd at ddiwedd mis Chwefror 2025.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Ceri Davies, swyddog Llwyddo'n Lleol Sir Gaerfyrddin ceri.davies@mentera.cymru

Beth yw manteision defnyddio'r Gymraeg?
Mae'n denu cwsmeriaid.
Dywedodd 82% o gwsmeriaid mewn ymchwil diweddar eu bod yn fwy tebygol o ddewis cwmni sy'n
darparu gwasanaeth Cymraeg da.
Mae'n cryfhau brand.
Mae 82% o fusnesau'n cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth.
Mae'n cryfhau teyrngarwch cwsmeriaid.
Mae iaith yn rhan bwysig o hunaniaeth pob person. Byddwch yn meithrin perthynas gyflym gyda
chwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ac yna byddant yn sicr o ddefnyddio eich busnes eto os ydynt yn eich gweld fel busnes dwyieithog.
Mae'n dangos tegwch a chydraddoldeb.
Mae defnyddio dwy iaith swyddogol Cymru yn dangos parch at ddiwylliant y wlad a'i phobl.
Gall godi proffil eich busnes.
Gall busnesau dwyieithog elwa o sylw gan ffrydiau cyfryngau Cymraeg yn ogystal â rhai Saesneg.
Gall gyfrannu at gadw iaith a diwylliant brodorol y sir.
Byddwch yn rhoi cyfle i drigolion y sir ddefnyddio eu Cymraeg. Bu gostyngiad o 6% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir yn y cyfrifiad diwethaf.
Bydd cynyddu gwelededd y Gymraeg yn eich busnes yn helpu i atal y Gymraeg rhag dirywio ymhellach.
Rydym wedi datblygu taflen wybodaeth Cymraeg mewn Busnes sy'n rhoi awgrymiadau defnyddiol ar sut y gallwch gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn eich busnes.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi creu canllaw defnyddiol ynghylch sut i greu arwyddion dwyieithog ar gyfer eich busnes. Mae’n cynnwys cyngor ar y cynllun, sut i osgoi camgymeriadau, ac enghreifftiau go iawn gan fusnesau sy’n gweithio yng Nghymru.

A ydych am ddysgu Cymraeg?
Pa ffordd well o ddechrau eich taith dysgu Cymraeg na gyda staff o'r un anian o sefydliadau a busnesau eraill?
Drwy'r rhaglen Cymraeg Gwaith gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rydym yn cefnogi dosbarthiadau am ddim i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Tachwedd 2023 ac yn para am 32 wythnos.