Mae traeth tywodlyd gwych Pentywyn, sy'n ymestyn am 7 milltir, wedi bod yn denu ymwelwyr ers cenedlaethau. Mae ganddo bwynt gwerthu unigryw gan eich bod yn dal i allu gyrru car ar y traeth ac mae'n denu ymwelwyr sy'n ceisio torri record cyflymder y byd ar dir (gan gynnwys ceir, beiciau modur a siediau!)
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gyrchfan wedi elwa o waith adfywio gwerth miliynau o bunnoedd. Mae promenâd di-draffig 500m o hyd, sy'n edrych dros y traeth ac yn rhoi mynediad rhwydd iddo, eisoes wedi'i gwblhau yn ogystal â chanolfan fasnachol (Canolfan Parry Thomas) sy'n wynebu'r traeth. Mae pob uned wedi’i gosod yn y ganolfan hon ac mae’n cynnwys busnesau llogi caiacau, hufen iâ a choffi, a bwyty Asiaidd hynod boblogaidd ar y llawr cyntaf.
Mae Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin, De-orllewin Cymru, 15 milltir i'r gorllewin o dref sirol Caerfyrddin a 15 milltir i'r dwyrain o un o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd i dwristiaid yn y DU, sef Dinbych-y-pysgod.
Gallwch weld y diweddaraf am y prosiect ar ein tudalen Newyddion
Caffi a Llety Traeth Pentywyn
Mae'r “Caban” sy’n rhan o Draeth Pentywyn, yn ddatblygiad enghreifftiol sy’n darparu llety gwyliau pwrpasol newydd a chaffi sy’n edrych dros un o draethau mwyaf a mwyaf eiconig y DU.
Llety deulawr â 14 o ystafelloedd gwely sy’n gwneud y mwyaf o'r golygfeydd o'r traeth a'r môr, ac sy'n berffaith i'r rheiny sydd am grwydro Llwybr Arfordir Cymru, sy'n cynnwys caffi atodol, toiledau a chyfleusterau newid hygyrch.
Lleolir y datblygiad yn un o'r cyrchfannau i dwristiaid sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru (gwerth dros £1/2 biliwn i'r economi leol), mae’r lleoliad yn darparu gwasanaeth sy'n cyd-fynd ag atyniadau eraill ym Mhentywyn a’r sir ehangach, ac mae hefyd yn ychwanegu gwerth at atyniad sydd eisoes yn llwyddiannus gan gynnwys y rhai sy'n cerdded Llwybr Arfordir Cymru ac sy'n mynd i ddigwyddiadau rhyngwladol.