Prynu i Dalu

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/08/2023

Mae proses prynu i dalu Cyngor Sir Caerfyrddin yn dechrau gyda rhif archeb brynu swyddogol dilys sy'n sicrhau bod yr archeb yn swyddogol ac wedi'i hawdurdodi.

Pan fyddwch yn anfon eich anfoneb atom, nodwch y rhif, gan y bydd hyn yn sicrhau y gellir cyfateb eich anfoneb ar unwaith i'r archeb brynu a'i thalu heb oedi.

Mae'r holl daliadau'n cael eu gwneud gan BACS. Bydd angen i chi ddarparu prawf o'ch manylion banc er mwyn cael eich gosod ar ein system dalu.

Telerau talu safonol y Cyngor yw 30 diwrnod ar ôl derbyn anfoneb ddilys. Fodd bynnag, gall anfonebau a gyflwynir heb rif archeb brynu wynebu oedi o ran derbyn taliad.

Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i dalu'r anfonebau hynny sy'n nodi rhif archeb brynu dilys yn unig.