Beth i'w gynnwys ar eich anfoneb
Diweddarwyd y dudalen ar: 16/08/2023
Mae'n well gennym anfonebau a anfonir yn electronig. Mae hyn yn helpu cefnogi ein nod i leihau costau drwy ddefnyddio a storio llai o bapur.
I sicrhau ein bod yn eich talu'n brydlon, sicrhewch nad oes modd golygu eich anfonebau e.e.pdf (dim fformatau Word neu Excel) a chofiwch gynnwys y canlynol:
- Y gair 'Anfoneb/Nodyn Credyd' ar y ddogfen
- Enw'r Cwmni, cyfeiriad, a gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost
- Rhif cofrestru'r cwmni
- Wedi ei gyfeirio at Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC)
- Dyddiad yr Anfoneb
- Rhif Anfoneb unigryw
- Disgrifiad o'r Nwyddau/Gwasanaeth
- Y swm sy'n cael ei godi (ynghyd â TAW os yn berthnasol)
- Rhif cofrestru TAW (os yw'n berthnasol)
- Manylion talu (Enw, Côd Didoli a Chyfrif Banc)
- Os contractiwyd i wneud gwaith yng nghwmpas cynllun treth diwydiant adeiladu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, dadansoddiad clir o ddeunyddiau a llafur a'ch rhif Cyfeirnod Treth Unigryw.
- Rhif archeb brynu CSC dilys
Dylai'r rhif archeb brynu fod wedi cael ei ddarparu i chi gan y swyddog(ion) sy'n caffael eich nwyddau/gwasanaethau.
Isod mae enghraifft o'r hyn y dylai anfoneb electronig ei gynnwys.
Mwy ynghylch Gwybodaeth i Gyflenwyr - Archebu a Thalu