Lle i anfon eich Anfoneb

Gallwch anfon eich anfonebau drwy e-bost neu drwy'r post. Sylwch y byddai anfonebau drwy e-bost yn well gennym er mwyn lleihau ein defnydd o bapur.

 

Anfonebau drwy e-bost

Er mwyn ein galluogi ni i brosesu eich anfoneb yn gyflym, dylech atodi'r anfoneb yn fformat PDF i'ch e-bost.

Rhaid atodi pob anfoneb yn unigol. Bydd atodiadau sengl sy'n cynnwys mwy nag un anfoneb yn cael eu gwrthod.

Anfonwch eich e-byst at y swyddog(ion) sy'n caffael eich nwyddau/gwasanaethau. Peidiwch â'u hanfon yn uniongyrchol i'n hadran daliadau gan y byddant yn cael eu dychwelyd.

 

Anfonebau drwy'r Post

Mewn amgylchiadau eithriadol, lle nad yw e-bost yn bosib, byddwn yn derbyn anfonebau papur a anfonwyd atom yn y post.

Anfonwch eich anfonebau at y swyddog sy'n caffael eich nwyddau/gwasanaeth.

Peidiwch ag anfon eich anfoneb i unrhyw le arall gan y bydd hyn yn achosi oedi wrth brosesu a thalu.