Cofrestrwch Eich Busnes Bwyd
Diweddarwyd y dudalen ar: 20/05/2025
Mae angen i bob busnes bwyd gofrestru cyn dechrau unrhyw weithrediadau bwyd.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd gofrestru gyda'u cyngor lleol 28 diwrnod cyn masnachu. Mae angen i bob busnes bwyd sy'n cyflawni unrhyw un o'r camau cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd gael ei gofrestru.
Mae safleoedd bwyd yn cynnwys:
- bwytai,
- gwestai,
- caffis,
- siopau,
- archfarchnadoedd,
- ffreuturau staff,
- tafarndai, bariau (gan gynnwys diodydd yn unig)
- warysau,
- tai llety,
- cerbydau dosbarthu,
- cerbydau bwffe ar drenau,
- stondinau marchnad a stondinau eraill,
- faniau cŵn poeth a hufen iâ, ac ati.
Gellir cael rhagor o fanylion am y math o safle yma : Paratoi ar gyfer dechrau eich busnes bwyd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Os ydych yn rhedeg sefydliadau busnes bwyd mewn mwy nag un ardal cyngor, rhaid i chi gofrestru gyda phob cyngor ar wahân. Dylai gweithredwr sefydliadau symudol fel faniau hufen iâ, faniau byrgyr ac ati gofrestru’r busnes bwyd gyda'r cyngor lle y cedwir y cerbyd fel arfer.
A oes unrhyw eithriadau?
Nid oes angen cofrestru rhai gweithgareddau bwyd oherwydd nad yw Rheoliad y CE yn berthnasol iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
- tyfu neu gynhyrchu bwyd at ddefnydd domestig preifat, er enghraifft cadw ieir i gyflenwi wyau i'ch teulu eich hun
- paratoi, trin neu storio bwyd ar gyfer defnydd domestig preifat.
- rhai digwyddiadau cymunedol – Darpariaeth bwyd cymunedol ac elusennol – canllawiau ar gymhwyso cyfraith hylendid bwyd yr UE
Cofrestrwch eich busnes bwyd ar-lein
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i chi a bod gennych fesurau yn eu lle i fodloni'r gofynion cyfreithiol hyn. Rhaid gwneud y gwaith hwn ymlaen llaw.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i chi a bod gennych fesurau ar waith i fodloni'r gofynion cyfreithiol hyn. Rhaid gwneud y gwaith hwn ymlaen llaw. Os ydych chi'n hyderus eich bod wedi gwneud yr holl waith paratoi, ewch ymlaen i gofrestru eich busnes. (Ar ôl cofrestru, bydd angen i chi ateb rhai cwestiynau rhagarweiniol sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ystyried a ydych chi wedi rhoi sylw i ragofynion allweddol sy'n ofynnol wrth redeg busnes bwyd yn ddiogel).
Oes angen ichi gofrestru eich busnes bwyd?