Arolygiadau hylendid bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/01/2024

Mae gan ein swyddogion iechyd yr amgylchedd yr hawl i fynd i mewn i safleoedd bwyd a’u harolygu heb fod yn rhaid iddynt drefnu apwyntiad neu roi rhybudd ymlaen llaw. Mae’n gyffredin i arolygwyr ymweld â safleoedd yn ddirybudd.

Bydd ein harolygwyr yn gwirio a yw eich busnes yn cynhyrchu bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta. Byddwn yn edrych ar y safle yn ei gyfanrwydd - y bwyd a baratoir; y dulliau gweithio a’r system rheoli diogelwch bwyd a’i defnydd.

Bydd amlder ein hymweliadau yn dibynnu ar y canlynol:

  • Pa fath o fwyd a drinnir
  • Y bobl sydd mewn perygl
  • Sut mae’r busnes yn cael ei reoli
  • Cyflwr y safle
  • Unrhyw gwynion rydym wedi’u derbyn

Beth fydd yn digwydd yn ystod ymweliad?

Pwrpas ymweliad yw penderfynu a gydymffurfir â’r rheoliadau. Byddwn yn dangos prawf adnabod ichi wrth gyrraedd. Byddwn yn rhoi adborth adeiladol ynghylch yr arolygiad a byddwn yn barod i drafod unrhyw broblemau a nodwyd neu unrhyw bryderon a allai fod gennych mewn perthynas â materion hylendid bwyd.

Os byddwn yn gofyn ichi wneud rhywbeth, dywedir wrthych a oes angen cymryd camau i gydymffurfio â’r gyfraith neu a yw’n arfer da. Bydd unrhyw gamau sydd eu hangen yn cael eu cadarnhau yn ysgrifenedig. Os byddwn yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau, byddwn hefyd yn trafod amserlenni ar gyfer cwblhau’r gwaith. Byddwn yn rhoi manylion ynghylch unrhyw ymweliadau dilynol er mwyn gwirio’ch cynnydd, ac eithrio lle mae perygl dybryd i iechyd.

Mewn rhai achosion, byddwn yn cymryd samplau, yn tynnu lluniau, yn archwilio cofnodion ac yn cymryd bwyd rydym yn amau ei fod yn anniogel. O ganlyniad, gallwn ysgrifennu atoch yn anffurfiol gan ofyn ichi gywiro materion, cyflwyno hysbysiadau gwella hylendid, neu gyflwyno hysbysiadau camau adfer neu osod gwaharddiadau ar y busnes, h.y. proses, safle neu offer penodol.

Fodd bynnag, os bernir bod y cyhoedd mewn perygl, byddwn yn cyflwyno hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid, sydd i bob pwrpas yn cau eich sefydliad. Hefyd, gallwn argymell erlyniad mewn achosion difrifol a allai arwain at ddirwy, carcharu neu hyd yn oed wahardd unigolyn rhag rheoli busnes bwyd.

Apeliadau

Rydym yn gweithredu gweithdrefn gwynion ffurfiol pe baech yn dymuno cwyno am safon y gwasanaeth a dderbyniwch. Os byddwch yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad gwella hylendid, mae gennych hawl i apelio i Lys Ynadon.

Lle’r ydym wedi barnu bod angen cyflwyno hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid mewn perthynas â safle, proses neu offer, neu atafaelu llwyth penodol o fwyd, rhaid cymryd camau o’r fath gerbron Ynad o fewn cyfnod penodedig. Rhaid i Ynad gadarnhau bod busnes wedi’i gau ar frys neu fod bwyd wedi’i atafaelu. Os penderfynir bod safle wedi’i gau heb reswm priodol neu fod bwyd wedi’i gymryd ar gam, mae gennych hawl i iawndal.