Cyngor busnesau bwyd sylfaenol

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/02/2024

Cyngor os ydych yn dechrau busnes bwyd newydd neu'n cymryd drosodd un sy'n bodoli eisoes.

Mae ‘busnes bwyd’ yn cynnwys unrhyw ymgymeriad (cyhoeddus neu breifat, elw neu ddielw) o’r gweithrediadau bwyd canlynol: paratoi, prosesu, gweithgynhyrchu, pecynnu, storio, cludo, dosbarthu, trin neu gynnig i’w werthu.

Mae safleoedd bwyd yn cynnwys:

  • bwytai, gwestai,
  • caffis,
  • siopau,
  • archfarchnadoedd,
  • ffreuturau staff,
  • tafarndai,
  • bariau (gan gynnwys diodydd yn unig),
  • warysau,
  • tai llety,
  • arlwywyr cartref,
  • cerbydau dosbarthu,
  • cerbydau bwffe ar drenau,
  • stondinau marchnad a stondinau eraill,
  • faniau cŵn poeth a hufen iâ.
  • Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fath arall o safle nad yw ar y rhestr hon ond a ddefnyddir ar gyfer storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd.

'Gweithredwr busnes bwyd' yw'r person(au) naturiol neu gyfreithiol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gofynion cyfraith bwyd yn cael eu bodloni yn y busnes bwyd sydd o dan ei reolaeth.

Os ydych yn rhedeg busnes bwyd neu'n ystyried dechrau un, bydd angen i chi sicrhau bod y bwyd neu'r ddiod y byddwch yn ei gynhyrchu yn ddiogel ac yn ddihalog. Y rheoliadau pwysicaf sy’n berthnasol yn benodol i fusnesau bwyd yw:

Mae'r rhain yn nodi'r gofynion hylendid sylfaenol ar gyfer pob agwedd ar eich busnes. O'ch safle a'ch cyfleusterau i hylendid personol eich staff. Maent hefyd yn gosod gofyniad bod yn rhaid i'r gweithredwr busnes bwyd sicrhau nad yw'r bwyd a roddwch ar y farchnad yn niweidiol i iechyd pobl nac yn anaddas i bobl ei fwyta.

Bydd pob busnes bwyd yn peri risg wahanol yn dibynnu ar y math o fwyd a gynhyrchir. Rhaid ystyried y math o fwyd, sut mae'n cael ei drin, ei drafod a'i storio wrth benderfynu a oes risg i ddiogelwch. Mae rhai sefydliadau masnach yn cynhyrchu canllawiau gwirfoddol a dylech wirio a yw eich busnes yn un o'r rhai a gwmpesir.

Os ydych chi'n ystyried cychwyn busnes bwyd newydd mae llawer o waith cynllunio y mae angen ei wneud. Yn ogystal â sicrhau bod eich safle bwyd wedi'i adeiladu'n gywir, gyda dyluniad, cynllun a hylendid da, mae angen i chi sicrhau eich bod chi a'ch staff wedi'ch hyfforddi. Mae angen i chi hefyd gael systemau priodol ar waith i sicrhau bod y bwyd rydych chi'n ei werthu yn ddiogel ac o ansawdd da.

Bwyd mwy diogel, busnes gwell: cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd