Symud anifeiliaid

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/08/2023

Mae rhai gofynion trwyddedu ar gyfer symud anifeiliaid yn dal mewn grym yn sgil clwy'r traed a'r genau

Gallwn roi cyngor ichi ynghylch y gofynion trwyddedu presennol, neu gallwch edrych ar wefan DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig).

Ar ôl symud unrhyw anifeiliaid i fferm, heblaw am foch, bydd cyfnod segur yn weithredol sy'n atal rhagor o symudiadau o'r safle hwnnw am 6 diwrnod (ac eithrio mynd i'r lladd-dy a rhai symudiadau penodol anifeiliaid bridio). Ar ôl symud moch i fferm, bydd cyfnod segur o 20 diwrnod yn weithredol.

Symud moch, defaid a geifr

Cyfrifoldeb y sawl sy'n derbyn yr anifeiliaid yw rhoi gwybod inni cyn pen tridiau ar ôl y symud. Mae'n rhaid rhoi gwybod am yr holl symudiadau gan gynnwys y rheiny sy'n rhan o byramidau a symud anifeiliaid i'r lladd-dy.

Gellir anfon y copi gwyn o'r ffurflen drwy'r post neu gellir ei sganio a'i anfon mewn e-bost.

Symud gwartheg

Rhaid rhoi gwybod i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) am symudiadau gwartheg cyn pen tridiau.