Labelu

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/04/2024

Mae nifer o ofynion cyfreithiol yn effeithio ar gigyddion mewn perthynas â labelu a chyfansoddiad cig ffres, cig wedi'i goginio a chynhyrchion cig, wyau a chaws.

Mae angen lefelau gwahanol o labelu ar fwyd sy'n cael ei werthu i ddefnyddwyr. Mae deddfwriaeth benodol yn llywodraethu'r modd y caiff cig eidion a chig llo eu labelu, ond nid yw porc yn ddarostyngedig i'r un fath o ofynion cyfreithiol ar hyn o bryd. Ceir diffiniadau cyfreithiol a gofynion labelu penodol iawn mewn perthynas â chynhyrchion cig penodol. Os ydych yn gigydd, mae'n rhaid i chi hefyd fod yn ofalus wrth ddefnyddio termau fel 'wedi'i drin â mwg' a 'traddodiadol' gan fod y termau hyn hefyd yn ddarostyngedig i ddiffiniadau cyfreithiol a chyfyngedig.

Cofiwch fod diffiniadau cyfreithiol a chyfyngedig o nifer o dermau a ddefnyddir i ddisgrifio'r cynhyrchion a drafodir yn y canllaw hwn. Ymhlith yr enghreifftiau o'r rhain mae:

  • 'brest' - dylid nodi'n glir a yw cynhyrchion wedi'u gwneud o ddarnau o gig wedi'u torri a'u siapio/ailffurfio 
  • 'wedi'i drin â mwg' - dylid ei wahaniaethu oddi wrth gynhyrchion nad ydynt wedi'u mygu ond sy'n cynnwys 'blas mwg'
  • dylai cynhyrchion 'heb lawer o fraster' a 'heb unrhyw fraster' fod yn ddigon gwahanol i gynhyrchion safonol
  • 'ffermdy', traddodiadol', 'cartref' - mae i'r termau hyn ystyron penodol
  • 'heb glwten' - sicrhewch nad yw'r cymysgeddau o berlysiau neu sbeisys a ddefnyddir mewn cynhyrchion yn cynnwys glwten ychwaith
  • mae i'r termau 'kosher' a 'halal' ddiffiniadau cyfreithiol penodol iawn, a dylech ofyn i'ch lladd-dy neu gyflenwr a yw eich cynhyrchion yn cydymffurfio â'r gofynion hyn ai peidio
  • dylai eich cyflenwr gadarnhau'r termau 'buarth', 'magwyd yn yr awyr agored', a 'lleol' yn ysgrifenedig 

Dylai cig ffres rhydd a gaiff ei arddangos i'w werthu gael ei labelu ag enw'r bwyd.  Dylai enw'r bwyd fod yn fanwl gywir, a dylai nodi'r math o gig a disgrifiad cywir o unrhyw ddarn y byddwch yn ei ddatgan - er enghraifft, stecen syrlwyn, stecen ffrio, golwythion lwyn, neu friwgig cig dafad. Rhaid disgrifio cig sydd wedi'i drin ag ensymau proteolytig fel cig 'wedi’i freuo'.

Ni ddylai cynhyrchion gynnwys mwy na'r uchafswm lefel a ganiateir o ychwanegion a restrir yn Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013. Dim ond mewn cig byrgyr sy'n cynnwys o leiaf 4% o rysg neu gynnwys llysiau, neu selsig, y caniateir sylffwr deuocsid, a hynny ar lefel benodol, sef 450mg/kg. Gan ei fod yn alergen, rhaid datgan ei fod wedi'i gynnwys yn y bwyd. 

Os bydd unrhyw gynnyrch cig yn cynnwys proteinau ychwanegol sy'n deillio o anifail gwahanol, rhaid nodi hyn yn enw'r bwyd.  

Os byddwch yn cynhyrchu neu'n gwerthu cynhyrchion cig heb eu coginio, wedi'u halltu neu heb eu halltu sy'n edrych yn debyg i ddarn, golwyth, sleisen, rhan neu garcas o gig, ac sy'n cynnwys mwy na 5% o ddŵr, rhaid i chi gynnwys y geiriau 'dŵr ychwanegol' yn enw'r bwyd. 

Os bydd y cynnyrch cig yn cynnwys unrhyw gynhwysion ychwanegol eraill ar wahân i'r rhain, dylid penderfynu pa un a oes angen cynnwys hyn yn enw'r bwyd ai peidio fesul achos yn unol ag erthygl 17 o Reoliad yr UE (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr.

Os bydd perlysiau neu unrhyw gynhyrchion eraill a ddefnyddiwyd gennych wedi'u harbelydru, rhaid i chi hefyd gynnwys hyn ar y label.

Mae gan nifer gyfyngedig o fathau o gig ffres statws enw tarddiad gwarchodedig, yn seiliedig ar eu brid, eu tarddiad daearyddol neu'r dull o ffermio. Mae rhestr gyflawn o gynhyrchion cofrestredig o'r DU ar gael ar wefan GOV.UK.

Rhaid i gig eidion a chig llo gael eu labelu yn unol â Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo 2010.

Er nad oes gofynion cyfreithiol ar gyfer labelu porc yn yr un modd ag ar gyfer cig eidion a chig llo, mae gwefan Pork Provenance yn cynnwys cod ymarfer a all fod yn ddefnyddiol.

Fodd bynnag, mae'n rhaid nodi'r tarddiad wrth labelu porc, dofednod, cig oen a chig gafr ffres (ac wedi'i rewi).

O dan Reoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014, ystyr 'cynnyrch rheoledig' yw: 'bwyd sy’n cynnwys un o’r canlynol fel cynhwysyn (pa un a yw’r bwyd hefyd yn cynnwys unrhyw gynhwysyn arall ai peidio):(a) cig;(b) cig wedi ei wahanu’n fecanyddol....;(c) calon, tafod, cyhyrau’r pen (heblaw maseterau), carpws, tarsws neu gynffon unrhyw rywogaeth famalaidd neu adarol y cydnabyddir ei fod yn ffit i’w fwyta gan bobl'.

Rhaid i gynhyrchion cig gael eu labelu ag enw'r cynnyrch, manylion unrhyw alergenau, cynhwysion wedi'u harbelydru a dŵr ychwanegol os yw'n fwy na 5%, fel ar gyfer cig ffres.  At hynny, mae llawer o gynhyrchion - fel selsig, byrgyrs, pastenni a phasteiod - yn ddarostyngedig i ofynion cyfansoddiadol. 

Wrth gynhyrchu cynhyrchion cig, bydd angen i chi sicrhau bod eich rysáit a'ch dull gweithgynhyrchu yn cynhyrchu nwyddau sy'n cydymffurfio â'u diffiniad, yn enwedig mewn perthynas â chynnwys cig.

Diffinnir cig fel cyhyr ysgerbydol â chyfrannau penodol o feinwe adlynol (meinwe gyswllt a braster); nid yw'n cynnwys offal. Mae'r lefelau cysylltiedig o fraster a meinwe gyswllt y gellir eu hystyried yn gynnwys cig yn amrywio ar gyfer rhywogaethau gwahanol. Uwchlaw'r lefel hon, rhaid datgan y meinwe gyswllt a'r braster ar wahân ar unrhyw label cynhwysion (er enghraifft, croen porc neu fraster cig eidion) ac ni ellir eu hystyried yn gynnwys cig.

Mae tri dull a ddefnyddir ar hyn o bryd i weithio allan cynnwys cig mewn darn o gig, sef 'visual lean', 'dadansoddiad CLITRAVI' a 'phrofion nitrogen' (ar gyfer rhywogaethau unigol yn unig). Mae cyfrifiannell cigyddion ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Sicrhewch eich bod yn labelu unrhyw gawsiau rydych yn eu gwerthu'n rhydd yn gywir o ran eu math. Mae gan lawer o fathau o gaws Enw Tarddiad Gwarchodedig. Mae rhestr gyflawn o gynhyrchion cofrestredig yn y DU ar gael ar wefan GOV.UK.

Nid oes angen i chi gynnwys cynhyrchion lactig, ensymau na meithriniadau microbiolegol wrth restru cynhwysion caws, dim ond y cynhwysion a ychwanegwyd at y caws (fel perlysiau neu ffrwythau) a'r alergenau y mae'n eu cynnwys. 

Gall methu â chydymffurfio arwain at gyhoeddi hysbysiad gwella, yn ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio. Mae'n drosedd i beidio â chydymffurfio â'r hysbysiad gwella o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Y gosb fwyaf mewn achos o gollfarn yw dirwy anghyfyngedig a/neu ddwy flynedd o garchar.

Os na fydd gwybodaeth am alergenau yn cydymffurfio â'r gofynion, ystyrir bod hynny'n drosedd o dan Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014. Y gosb fwyaf mewn achos o gollfarn yw diryw o £5,000.