Tystysgrif allforio bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/08/2023

Os oes gennych fusnes bwyd a’ch bod yn dymuno allforio eich cynnyrch, gall y wlad y bydd eich cynnyrch yn mynd iddi fynnu eich bod yn meddu ar dystysgrif iechyd allforio bwyd.

Sut mae gwneud cais

Yn gyntaf, cysylltwch â llysgenhadaeth neu swyddfa is-gennad y wlad rydych am allforio bwyd iddi a byddant yn nodi’r manylion a’r fformat sydd eu hangen ar gyfer y dystysgrif.

Dylech gysylltu â ni a rhoi’r wybodaeth hon i ni. Ni fyddwn yn rhoi tystysgrif os na fyddwch wedi cofrestru eich busnes bwyd.

Byddwn yn archwilio eich busnes i wirio bod y bwyd yn cael ei gynhyrchu gan gydymffurfio â deddfwriaeth y DU a gallwn gynnal gwiriadau ychwanegol, gan ddibynnu ar y geiriad sydd ei angen ar y dystysgrif.

Cofiwch y byddwn yn gwrthod unrhyw gais am Dystysgrif Allforio Bwyd os na chyflwynir y dogfennau priodol gyda'r cais.

Mae'n bosibl y codir ffi.