Dathliadau VE80
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2025
Bydd dydd Iau 8 Mai 2025 yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod VE a bydd llawer yn dymuno manteisio ar y cyfle hwn i gofio'r miliynau o ddynion a menywod dewr a aberthodd eu bywydau yn ein gwasanaethau arfog, yn ogystal â'r rhai a wasanaethodd ar y ffrynt cartref.
Dros Ŵyl y Banc ddydd Llun 5 Mai, gall cymunedau ddod at ei gilydd a dathlu fel y gwnaeth pobl 80 mlynedd yn ôl – trwy gynnal partïon stryd, digwyddiadau cymunedol a chynulliadau anffurfiol.
Mae'r fenter hon yn cael ei chefnogi ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru gan Together Coalition. Mae gwefan bwrpasol, VE a VJ Day 80, hefyd wedi'i chreu i hyrwyddo a chefnogi digwyddiadau coffa.
Partïon Stryd
Ganrif yn ôl, roedd Te-partis Heddwch yn nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a ddechreuodd y cariad gyda dathliadau parti stryd. Ers hynny, mae partïon stryd wedi'u cynnal ar gyfer diwedd rhyfeloedd, jiwbilîs, priodasau brenhinol a'r mileniwm. Yn draddodiadol mae pobl yn dod allan o'u cartrefi i ddod at ei gilydd yn eu strydoedd, parciau a gerddi yn casglu o amgylch byrddau gyda bwyd i sgwrsio, chwerthin a chael hwyl.
Os ydych yn cynllunio parti stryd, ystyriwch y canlynol;
- Dim ond os oes llwybr amgen ar gael y gellir gwneud cais am gau ffordd swyddogol, felly os cynlluniwyd parti mewn cul de sac, ni fyddwn yn gallu cau'r ffordd yn swyddogol. Gallai digwyddiad barhau i gael ei gynnal os cynhelir mynediad i'r holl breswylwyr a'r gwasanaethau brys. Mae rhagor o wybodaeth am y rheoliadau a'r costau cysylltiedig yma.
- Hylendid bwyd a sŵn.
- Os ydych chi'n gyngor cymuned neu dref, gallwch wneud cais i osod baneri yma. Peidiwch â hongian unrhyw eitemau ar bolion lamp neu dros balmentydd neu ffyrdd.
- Dylech ailgylchu cymaint â phosibl.
- Prynwch eich bwyd a diod yn lleol drwy ddefnyddio 100% Sir Gâr.
Hefyd, beth am ystyried cynnal eich dathliad yn un o'r parciau hyfryd y mae'r Cyngor Sir yn eu rheoli? Parchwch eraill a chofiwch waredu eich sbwriel.
Digwyddiadau mwy
Os ydych yn bwriadu cynnal digwyddiad mwy gydag elfennau masnachol a fydd yn golygu gwerthu eitemau neu ffi mynediad, cysylltwch â ni gan y gallwn roi cyngor ar unrhyw hawlenni neu drwyddedau angenrheidiol yn ogystal â rhoi dogfennau templed ar gyfer darparu'r gweithgareddau'n ddiogel ac yn effeithlon.