Eiddo gwag
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2024
Gall perchenogion eiddo annomestig sydd heb ei feddiannu fod yn agored i dalu ardrethi eiddo gwag a godir yn ôl 100 y cant o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 3 mis, neu, yn achos ffatrioedd a warysau, pan fydd yr eiddo wedi bod yn wag am 6 mis.
Mae mathau penodol o eiddo wedi’u heithrio rhag ardrethi eiddo gwag:
- Eiddo gyda gwerth trethiannol o dan £2,600
- Adeiladau rhestredig
- Eiddo ble mae meddiannaeth yn gwaharddedig gan y gyfraith
Mwy ynghylch Trethi Busnes